Arddangosfa: Ein Lleisiau Ni
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Project Amgueddfa Cymru yw Ein Lleisiau Ni, a’i nod yw casglu a rhoi llais i straeon a phrofiadau LHDTC+.
Cydweithiodd aelodau Grŵp Ieuenctid Amgueddfa Cymru â staff yr Amgueddfa i nodi bylchau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Cafodd eitemau a straeon pobl LHDTC+ pobl sy’n byw yng Nghymru eu casglu o’r gymuned.
Nid yw’r straeon hyn yn cynrychioli’r gymuned LHDTC+ yn ei chyfanrwydd, ond maen nhw’n cynnig cipolwg o’n project. Bydd yr eitemau a’r straeon a gasglwyd yn rhan o’r project hwn yn cael eu hychwanegu at gasgliad yr Amgueddfa, yn gofnod parhaol o brofiadau pobl a chymunedau LHDTC+ ledled Cymru.