Hawlio Heddwch
Dewch i weld ein harddangosfa Hawlio Heddwch, yna ymunwch â ni am weithdy i ddysgu am heddwch, protest a gweithredaeth yng Nghymru trwy hanes. Trwy’r gweithdy cydweithredol hwn rhwng Amgueddfa Cymru, Y Deml Heddwch, a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, bydd eich dysgwyr yn creu eu ‘Cynllun Gweithredu’ eu hunain i ddod yn ‘Gwneuthurwyr Newid dros Heddwch’. Dewiswch achos damcaniaethol i sefyll drosto, neu un go iawn, unrhyw le o heddwch byd, i ddim mwy o frocoli ar fwydlen yr ysgol, a helpwch eich dysgwyr i ddeall eu hawliau, y cyfreithiau, a hanes, protestio yng Nghymru.
Hoffech chi fynd â'ch taith gam ymhellach? Arhoswch ymlaen am ail awr i ddechrau rhoi eich ‘Cynllun Gweithredu’ ar waith! Ymunwch â staff yr amgueddfa i greu placardiau, baneri, deisebau, neu beth bynnag y bydd eich dysgwyr yn ei benderfynu dros eu hachos, a’u rhoi ar waith ar safle Sain Ffagan.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer disgyblion 11-14 oed, ond gellir ei addasu ar gyfer dysgwyr iau neu hŷn. Holwch wrth archebu.
Mae'r gweithdy hwn ar gael i'w archebu nawr, gyda gweithdai yn dechrau o ddechrau'r tymor newydd ar Ebrill 8fed.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk