Dysgu yn Big Pit

Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd bywyd i’r dynion, menywod a phlant oedd yn gweithio dan ddaear? Roedd Big Pit yn bwll glo ar un adeg, ac erbyn heddiw mae’n amgueddfa lle cewch glywed cyn-lowyr yn adrodd eu hanesion. Cewch fynd ar daith 90 medr i grombil y ddaear i weld sut beth oedd gweithio mewn pwll glo. Mae digon i’w wneud ar yr wyneb hefyd – taith amlgyfrwng gyda glöwr rhithwir yn yr Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddondai Pen Pwll, a phob math o adeiladau hanesyddol i’w harchwilio. Yn ein gweithdai wedi’u hwyluso, bydd ein tîm Addysg yn eich tywys drwy 300 miliwn o flynyddoedd o hanes Cymru.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Blaenafon
Torfaen
NP4 9XP

Manylion Mynediad

Anghenion Ychwanegol

Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch

Polisi a Gweithdrefnau Diogelu Plant