Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pastai Preseli

Penfro, Sir Benfro

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o datws wedi’u coginio a’u potsho
  • dwy owns o gig moch
  • dwy owns o gig moch wedi’i goginio
  • un winwnsyn
  • ychydig o saets wedi’i falu
  • pupur a halen
  • crwst

Dull

  1. Torri’r cig moch yn ddarnau bach a’i ffrio nes y bo’r saim yn rhedeg ohono, torri’r winwnsyn yn fân i’r saim hwn a’i ffrio gyda’r cig moch. 
  2. Yna rhoi’r cig coch yn y badell ffrio, ysgwyd y saets drosto a’i dwymo gyda’r defnyddiau eraill cyn ychwanegu’r tatws atynt. 
  3. Blasu’r cyfan â phupur a halen.
  4. Gorchuddio gwaelod dysgl â chrwst a’i grasu’n ysgafn cyn rhoi’r cymysgedd hwn arno.
  5. Crasu’r bastai mewn ffwrn gynnes am ryw ddeng munud nes gwelir y cymysgedd yn cochi’n ysgafn.
  6. Gwneud grefi a’i arllwys dros y bastai.  Ei bwyta’n gynnes.

Penfro.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.