Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Torth Fraith

Caernarfon, Gwynedd

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Byddid yn torri’r dorth hon yn dafelli a thaenu ymenyn arnynt.

Uwchmynydd, Caernarfon.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd
  • ychydig o halen
  • ychydig o siwgr coch
  • hanner pwys o gyrens
  • hanner pwys o resins
  • llond llwy fwrdd o driog du
  • owns o furum
  • dŵr cynnes
  • (ychydig o lard neu ymenyn)

Dull

  1. Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a dŵr cynnes a’i adael i godi mewn lle cynnes am ychydig o amser.
  2. Rhoi’r blawd a’r halen mewn padell ynghyd â’r defnyddiau sych eraill, eu cymysgu’n drwyadl a gwneud lle yn eu canol i dderbyn y burum. 
  3. Tywallt y burum iddo. 
  4. Toddi’r triog mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i ddefnyddio’n raddol i wlychu’r cyfan nes cael ‘toes’ meddal.  (Gellir toddi ychydig o ymenyn neu lard yn y dŵr yn ogystal â’r triog, os dymunir.)
  5. Tylino’r toes yn dda a’i adael i godi mewn lle cynnes am awr neu ragor. 
  6. Ail dylino’r toes ar fwrdd pren a’i roi mewn tun cynnes sydd wedi’i iro ymlaen llaw.
  7. Gadael i’r torth godi am ychydig o amser eto cyn ei rhoi mewn popty gweddol boeth i’w chrasu.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.