Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Reis

Nantgarw, Rhondda Cynon Taf

Ffwrn dun Maesycymmer, 1890au

Mewn ffwrn dun o flaen y tân y cresid y deisen hon ond gellir rhoi cynnig ar ei chrasu heddiw mewn tun, naill ai o dan gridyll ffwrn nwy neu drydan gan gadw’r deisen yn ddigon isel o dano, neu mewn ffwrn weddol boeth.

Nantgarw, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau lond cwpan o reis
  • ychydig o halen
  • dŵr
  • pwys o flawd plaen
  • hanner pwys o ymenyn
  • llond llwy de o bowdr codi
  • pedwar wy
  • llaeth
  • siwgr – yn ôl y dewis
  • ychydig o nytmeg

Dull

  1. Berwi’r reis mewn dŵr a halen nes bod y reis wedi digoni a’r dŵr wedi sychu. 
  2. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r reis atynt ynghyd â’r defnyddiau sych eraill. 
  3. Eu gwlychu â’r wyau a’r llefrith nes cael cymysgedd o ansawdd cytew ysgafn.
  4. Iro tun bas a thywallt y cymysgedd iddo.

Nantgarw, Morgannwg.

 


 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.