Rhoi’r pen a’r iau i sefyll mewn dŵr a halen dros nos.
Drannoeth eu golchi’n lân a’u glanhau.
Berwi’r pen a’r iau a’r nionod mewn sosban nes y bo’r cig yn rhyddhau oddi wrth yr esgyrn.
Codi’r pen a’r iau allan o’r dŵr, tynnu’r cig oddi ar yr esgyrn, a thorri’r cig a’r iau yn ddarnau bychain (tua chwarter modfedd ar draws) a’u rhoi’n ôl yn y potes.
Codi’r potes i ddysglau a’i fwyta’n gynnes.
Rhostryfan, Caernarfon.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.