Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Ceirch

Glan-y-fferi a Llanuwchllyn

Gyrru bara ceirch. Mrs Catrin Evans, Llanuwchllyn, Meirionnydd

'Hala' bara ceirch. Mrs May Davies, Llan-saint, Sir Gaerfyrddin

Y mae gwneud bara ceirch yn hen grefft sydd yn nodweddiadol o’r Alban, o Loegr, o Gymru ac o Iwerddon fel ei gilydd, ond mae gan bob gwlad, ac yn wir llawer sir ac ardal o fewn yr un wlad, ei mân amrywiadau arni.  Wrth reswm, yr un yw’r grefft yn ei hanfod – rhaid cael y defnyddiau crai, sef blawd ceirch a dŵr, eu gwneud yn does, llunio hwnnw’n dorthau, a’u crasu.  Y nod yw llunio torth denau, gron a’i hymyl mor llyfn â phlât, ac y mae cyfrinach y grefft honno ynghlwm wrth y dull a arferir i yrru ac i lunio’r dorth.  Y mae’n dra thebyg fod dau ddull gwahanol wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, y naill yn cael ei arfer heddiw yn sir Feirionnydd (ac sydd yn nodweddiadol o siroedd gogledd Cymru yn gyffredinol), a’r llall a fyddai’n cael ei arfer mewn rhai ardaloedd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.

Disgrifir y ddau ddull hyn yn y cyfarwyddiadau canlynol:

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llond cwpan wy o ddŵr claear
  • hanner llond llwy de o doddion cig moch
  • tua thri llond dwrn o flawd ceirch
  • blawd ceirch
  • dŵr oer

Dull

  1. Toddi’r saim yn y dŵr a gollwng y blawd ceirch iddo yn raddol gan dylino’r cymysgedd yn does meddal.
  2. Taenu ychydig o flawd ceirch ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i foldio rhwng y ddwy law i ffurf ‘cocyn’ bychan. 
  3. Yna ei ledu â chledr y llaw a’i ffurfio’n dorth gron o dua maint soser go fawr.
  4. Yn awr defnyddier rholbren i yrru’r dorth, ac wrth ei gyrru ei lletroi bob hyn a hyn, sef rhoi rhyw chwarter tro iddi ar y bwrdd, gan wasgu ymyl y dorth â blaen bysedd y llaw dde i’w rhwystro rhag cracio.
  5. Rhoi’r dorth derfynol (o’r un maint â phlât cinio go fawr) o’r neilltu i galedu rhyw gymaint cyn ei chrasu.
  6. Crasu’r dorth ar radell weddol boeth a’i throi i’w chrasu’n gyson ar y ddwy ochr. 
  7. Yna rhoi’r dorth i sychu a chaledu mewn lle cynnes.

Y Bala, Meirionnydd.

Dull cyffredin o fwyta’r bara ceirch hwn yn siroedd gogledd Cymru oedd rhoi darn o dorth geirch naill ai rhwng dwy frechdan wen neu wyneb yn wyneb ar un frechdan wen.  Amrywiai’r enwau a roddid ar y rhain, e.e., ‘brechdan gaerog,’ ‘brechdan linsi,’ brechdan fetal,’ ‘piogen’ a ‘pioden’.

Ni roid unrhyw fath o saim yn y bara ceirch a ddefnyddid yn sylfaen i’r brwes, y siot a’r picws mali; yr un oedd y grefft o’i wneud ond ni fyddid yn gyrru’r torthau mor denau â’r un a ddisgrifir uchod.

  1. Rhoi mesur da o flawd ceirch mewn dysgl a’i wlychu’n raddol â dŵr oer i wneud toes gweddol sych. 
  2. Maeddu’r toes yn dda er mwyn i’r blawd lynu’n dynn yn ei gilydd. 
  3. Yna rhoi’r toes ar bwrdd a’i rholio allan â’r ddwy law nes ffurfio un rholyn hir. 
  4. Rhannu’r rholyn hwn yn ddarnau bach cyfartal a’u ffurfio’n beli bach crwn. 
  5. Lledu pob un o’r peli, fesul dwy, drwy eu gwasgu a’u troi, un o dan bob llaw, nes y don’t i’r un maint â soser go fawr.
  6. Yna rhoi’r naill dorth ar ben y llall, â thrwch o flawd ceirch rhyngddynt, nes cael pentwr o ryw ddeuddeg ohonynt. 
  7. Gan ddefnyddio’r llaw chwith i gadw ymyl y pentwr yn grwn, lledu’r torthau gyda’i gilydd â’r llaw dde ac fel y lleda’r torthau defnyddio’r fraich (o’r benelin hyd at yr arddwrn) i’w lledu i’r un maint â phlât cinio. 
  8. Rhoi chwarter tro i’r pentwr bob hyn a hyn wrth ei ledu.
  9. Yna gwahanu’r torthau oddi wrth ei gilydd, glanhau’r blawd sych oddi ar bob un a’u crasu, fesul un, ar blanc gweddol boeth. 
  10. Eu rhoi i sychu mewn lle cynnes.

Glan-y-fferi, Caerfyrddin.

Ffilm/Recordiad

Mrs Catrin Evans, Rhyd-y-bod, Cynllwyd yn crasu bara ceirch ar dân agored. Mae'r offer a'r adnoddau i gyd yn draddodiadol. Roedd gan Mrs Evans hir brofiad o wneud bara ceirch, felly mae'r grefft yn cael ei harddangos ar ei gorau. Yn y ffilm gwelir y lle tân, sef grât a dau bentwr bob ochr, a'r radell yn gorffwys ar y pentan. Mae Mrs Evans yn taenu blawd ceirch ar y radell i brofi'r gwres. Os yw'r blawd yn cochi ychydig, yna mae'n brawf bod y radell yn y gwres priodol i grasu'r torthau. Gwelir Mrs Evans yn glanhau'r radell â'r adain bobi (adain gŵydd). Mae'n cydio mewn torth geirch rhwng cledr y ddwy law a'i gollwng ar y radell. Gadewir y dorth i grasu am ychydig funudau cyn ei throi â'r grafell. Wedi crasu'r ail ochr, mae Mrs Evans yn rhoi'r dorth ar ei hochr yn y rhes flaen ar y car bara ceirch. Y dywediad ar lafar gwlad oedd rhoi'r torthau 'ar eu cyllyll', sef ar eu hochr ar y car.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Martyn Raines
17 Mai 2020, 10:53
Very interesting, do you know if there is any link to the way Welsh oat cakes are made and the Bretton galettes?

Many thanks

Martyn
Jan
30 Ionawr 2020, 08:43
Extremely interesting and I will have to give this a go! Wonderful video a real snap shop, into history and everyday life.
Stephen Jones
9 Mawrth 2018, 09:16
I am very interested in the above. We have a collection of cast iron equipment for open fireplaces which has led me to studying cooking practises especially the the making of oatmeal cakes.
I make replica oatmeal peels or slices (Rhawlechi) as an exercise and I am making a an oatmeal rack.(Diogyn) I have not yet met anyone who has made oatmeal cakes and so it was exciting to come across the above video. Do you have any more information online
about using an open fire for cooking and the necessary tools

Sincerely

Stephen Jones