Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Gwin Mwyar Duon

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pum pwys o fwyar duon
  • galwyn o ddŵr oer
  • pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
  • dwy owns o sinsir
  • owns o glows

Dull

  1. Rhoi’r mwyar duon mewn padell bridd ac arllwys y dŵr oer drostynt. 
  2. Gwasgu’r ffrwyth â llwy bren a throi’r dŵr unwaith y dydd am ddeng niwrnod. 
  3. Yna hidlo’r trwyth drwy ogr mân, ychwanegu’r siwgr ato a’i doddi’n llwyr iddo.
  4. Berwi’r clows a’r sinsir mewn ychydig o’r trwyth hwn a’i adael i oeri drachefn cyn ei arllwys yn ôl at y gweddill. 
  5. Ei adael i ‘weithio’ am saith niwrnod gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb fel y bo angen. 
  6. Yna arllwys y gwin i boteli a gadael y corcyn yn llac yng ngheg pob potel am ryw fis o amser. 
  7. Eu tynhau pan welir bod y gwin wedi tawelu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.