Datganiadau i'r Wasg
Gwesty’r Vulcan yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Mai 2024
Bydd Gwesty’r Vulcan Hotel yn agor i ymwelwyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 11 Mai 2024.
Mwynhewch diwrnod ‘Dyfeisgar’ gyda llu o weithgareddau ymarferol i'r teulu cyfan ar gyfer Wythnos Gwyddoniaeth!
Mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn paratoi ar gyfer diwrnod 'DYFEISGAR' o weithgareddau
i ddathlu wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol. O gylchedau golau i gylchoedd creigiau, bydd DYFEISGAR, a gynhelir ddydd Sul 17 Mawrth rhwng 10am – 3pm, yn cynnwys llu o weithgareddau ar thema PŴER.
Canfod Trysor Rhufeinig ar Ynys Môn
Cafodd pâr o freichledau Rhufeinig eu datgan yn drysor ar ddydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Kate Robertson.
Cafodd dwy freichled aloi copr (Achos Trysor 23.68) eu canfod gan Mr Andrew Hutchinson wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddyfnan, Sir Fôn, ym mis Medi 2023. Gan eu bod yn Drysor, cafodd y breichledau eu trosglwyddo i Sean Derby yn Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed cyn cael eu cludo i’w hadnabod a’u dehongli gan guraduron arbenigol Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Gwisg o Arian: Canfod trysor yn ne-orllewin Cymru
Cafodd pedwar canfyddiad, gan gynnwys crogdlws a gwniadur arian Ôl-ganoloesol, eu datgan yn drysor ar dydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Brig Grwner E.F. Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Paul Bennett.
Cafodd crogdlws arian Ôl-ganoloesol (Achos Trysor 20.12) ei ganfod gan Mr Nicholas Davies wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llansteffan, Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2020. Cafodd y Trysor ei drosglwyddo yn ddiogel i Amgueddfa Cymru er mwyn ei adnabod, ac adroddwyd ar y canfyddiad gan Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar.