Ar ôl casglu ac ystyried yr holl dystiolaeth mewn perthynas â’r PYLLAU GLO rydym yn cyflwyno’r crynodeb canlynol:

  1. Mewn rhai achosion, mae Plant mor ifanc â phedair oed yn gweithio yn y pyllau hyn, weithiau maen nhw’n dechrau yn bump oed ac weithiau rhwng pump a chwech oed. Mae mwy yn dechrau rhwng chwech a saith oed a mwy eto rhwng saith ac wyth oed. Serch hynny, fel arfer mae plant yn dechrau gweithio yn y pyllau hyn rhwng wyth a naw oed.
  2. Mae cyfran fawr iawn o’r bobl sy’n cael eu cyflogi yn y pyllau glo o dan dair ar ddeg a deunaw oed.
  3. Mewn sawl ardal mae merched ifanc yn dechrau gweithio yn y pyllau glo yr un oedran â’r bechgyn ifanc.
  4. Mae llawer iawn o’r Plant a’r Bobl Ifanc sy’n gweithio yn y pyllau glo hyn yn perthyn i’r oedolion sy’n gweithio yno, neu’n rhan o boblogaeth dlotaf yr ardal; y gweithwyr eu hunain sy’n eu cyflogi a’u talu mewn rhai ardaloedd, tra bod perchnogion neu gontractwyr yn gwneud hynny mewn ardaloedd eraill.
  5. Mewn rhai ardaloedd mae yna nifer fach o brentisiaid y plwyf, sy’n cael eu gorfodi i wasanaethu eu meistri nes eu bod yn un ar hugain oed. Nid ydynt yn ennill unrhyw sgiliau yn y gwaith, maent yn cael eu cam-drin yn aml ac nid ydynt yn derbyn ond bwyd a dillad tra bod eu cyfoedion rhydd weithiau’n ennill cyflog dyn.
  6. Mewn llawer o achosion, defnyddir gallu ac arian i geisio sicrhau bod y gweithle yn iach, yn ddiogel ac yn rhydd o unrhyw ormes, ac yn aml iawn gwneir hyn yn gwbl lwyddiannus o safbwynt iechyd a chysur yn y pyllau; ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw fodd hysbys o sicrhau eu bod yn gwbl ddiogel; ac mewn llawer o achosion mae eu cyflwr o safbwynt awyru a draenio yn druenus o ddiffygiol.
  7. Mae natur gwaith y Plant ieuengaf, sef ‘trapio’ gan amlaf, yn golygu eu bod yn y pwll ar ddechrau’r diwrnod gwaith ac, yn ôl y system bresennol, nad ydynt yn gadael y pwll nes bod gwaith y dydd wedi’i gwblhau.
  8. Er na ellir cyfeirio at y gwaith hwn fel llafur, mae’r Plant sy’n ei gyflawni yn cael eu hamddifadu o olau yn aml ac yn gweithio ar eu pennau eu hunain bob amser, a byddai’n ymdebygu i’r profiad o fod mewn cell ar eich pen eich hun oni bai am y ffaith fod troliau glo yn eu pasio.
  9. Yn yr ardaloedd lle mae’r gwythiennau glo mor drwchus fel bod rhaid i’r ceffylau fynd yn syth at y gwaith, neu lle mae’r tramwyfeydd sy’n mynd o ochrau’r gwaith i’r llwybrau ceffylau yn gymharol fyr, mae’r goleuadau ar y prif ffyrdd yn golygu bod sefyllfa’r Plant yn llai digalon, llwm a gofidus; ond mewn rhai ardaloedd maent yn gweithio yn y tywyllwch ar eu pennau eu hunain ar hyd yr amser yn y pwll, ac yn ôl eu tystiolaeth eu hunain, nid yw llawer ohonynt yn gweld golau dydd am wythnosau ar y tro yn ystod tymor y gaeaf, ac eithrio ar ddiwrnodau’r wythnos pan nad yw’r gwaith yn gweithio, ac ar ddydd Sul.
  10. Mae’r gwaith caled o wthio a llusgo’r cerbydau glo o’r gwaith i’r prif ffyrdd neu i droed y siafft yn dechrau ar oedran gwahanol, o chwech mlwydd oed ymlaen; mae tystion o bob math yn cytuno bod y gweithwyr ifanc yn gorfod defnyddio eu holl nerth corfforol i allu gwneud y gwaith hwn.
  11. Yn yr ardaloedd lle mae menywod yn gweithio yn y pyllau glo, mae dynion a menywod yn gwneud yr un math o waith yn union ac yn gweithio’r un nifer o oriau. Mae merched a bechgyn, dynion a menywod ifanc, a hyd yn oed menywod priod sy’n feichiog yn gwneud eu gwaith heb wisgo fawr o ddillad, ac mewn llawer o byllau mae’r dynion bron yn noeth; mae tystion o bob math yn nodi bod cyflogi menywod o dan y ddaear yn ddigon i dorri’ch calon.
  12. Yn Nwyrain yr Alban, mae cyfran uwch o lawer o Blant a Phobl Ifanc yn cael eu cyflogi yn y pyllau glo o gymharu ag ardaloedd eraill, ac mae llawer ohonynt yn ferched; eu prif waith yw cludo glo ar eu cefnau wrth ddringo ysgolion serth.
  13. Pan fydd y gweithwyr mewn cyflogaeth lawn, anaml iawn y bydd Plant a Phobl Ifanc yn gweithio am lai nag unarddeg awr; gan amlaf maent yn gweithio am ddeuddeg awr; mewn rhai ardaloedd maent yn gweithio am dair awr ar ddeg; ac mewn un ardal maent yn gweithio am bedair awr ar ddeg neu fwy.
  14. Yn y mwyafrif llethol o’r pyllau glo hyn, roedd gwaith nos yn rhan o’r gyfundrefn lafur gyffredin ac yn digwydd fwy neu lai yn rheolaidd yn unol â’r galw am lo. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod gwaith nos yn andwyol i gyflwr corfforol a moesol y gweithwyr, yn enwedig Plant a Phobl Ifanc.
  15. Mae natur y gwaith yn golygu bod y gweithwyr yn cael seibiant o ychydig funudau bob hyn a hyn pan na fydd eu cyhyrau’n gweithio’n egnïol, felly ni ellir disgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod yr oriau hyn fel gwaith di-dor. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith yn stopio ar amser penodol i’r gweithwyr gael gorffwys a thamaid i’w fwyta; mae’r gweithwyr yn bwyta unrhyw fwyd sydd ganddynt tra eu bod yn gweithio.
  16. Mewn rhai achosion, er enghraifft mewn pyllau sy’n cael eu rheoli’n dda ac sy’n cynnig yr oriau gwaith byrraf, pyllau sy’n neilltuo cyfnod rheolaidd rhwng hanner awr ac awr i’w gweithwyr fwyta eu cinio a phyllau sydd ond yn cyflogi Plant o ddeg oed ymlaen, nid yw’r gweithwyr yn cwyno am flinder o gwbl, neu nid ydynt yn cwyno llawer amdano. Ond mewn achosion eraill mae’r gweithwyr yn cwyno llawer eu bod yn teimlo’n flinedig yn gyson, ac yn aml iawn mae’r blinder yn hynod boenus.
  17. Mewn llawer o achosion, nid oes gan y Plant a’r Bobl Ifanc lawer o achos i gwyno am y ffordd y mae’r bobl mewn awdurdod neu’r glowyr yn eu trin; ond yn gyffredinol mae’r Plant ieuengach yn cael eu trin yn wael gan y rhai hŷn; mewn llawer o byllau glo mae’r glowyr sy’n eu cynorthwyo yn llym ac yn greulon; er bod y bobl mewn awdurdod yn ymwybodol o’r camddefnydd hwn, ni fyddant byth yn ymyrryd i’w atal, ac mae rhai’n nodi nad oes ganddynt hawl i wneud hynny.
  18. Ac eithrio mewn rhai achosion, ychydig o ddiddordeb sydd gan berchnogion y pyllau glo ym mywyd y Plant a’r Bobl Ifanc a gyflogir ganddynt ar ddiwedd y diwrnod gwaith; ychydig sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y plant yn gallu mwynhau difyrrwch diniwed a gweithgareddau hamdden iach.
  19. Mae damweiniau hynod frawychus yn digwydd yn aml iawn yn y pyllau glo; mae’r atebion i’n cwestiynau ni yn ogystal â thablau’r cofrestrfeydd yn dangos bod cyfran y Plant a’r Bobl Ifanc sy’n marw mewn damweiniau o’r fath cyn uched â’r gyfradd ar gyfer oedolion ar adegau, a phrin iawn ei bod hi’n is na’r gyfradd honno.
  20. Un o’r prif resymau am ddamweiniau yn y pyllau hyn yw diffyg goruchwyliaeth i sicrhau bod y peiriannau sy’n cludo’r gweithwyr i fyny ac i lawr yn ddiogel. Mae’r rhesymau eraill yn cynnwys diffyg cyfyngu ar nifer y bobl sy’n esgyn ac yn disgyn ar unrhyw adeg, cyflwr y pwll mewn perthynas â faint o nwy gwenwynig sy’n bresennol, effeithlonrwydd y system awyru, pa mor dda y mae gweithredwyr y drysau aer yn cyflawni eu gwaith, y llefydd diogel neu beryglus i fynd gyda channwyll â fflam noeth a diogelwch cynhalwyr y to ac ati.
  21. Rheswm cyffredin arall am ddamweiniau angheuol mewn pyllau glo yw’r arferiad hynod gyffredin o ddefnyddio Plant ifanc iawn i gau’r drysau aer.
  22. Mewn llawer o byllau glo, mae camau diogelwch cwbl sylfaenol i atal damweiniau yn cael eu hesgeuluso, ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw arian yn cael ei wario ar sicrhau diogelwch a chysur y gweithwyr.
  23. Mae yna ddau arferiad sy’n unigryw i nifer fach o ardaloedd y mae'n rhaid eu beirniadu'n llym, sef, yn gyntaf, arferiad sydd ar waith mewn rhai o byllau llai Swydd Efrog ac sy'n gyffredin yn Swydd Gaerhirfryn lle mae rhaffau anniogel yn cael eu defnyddio i gludo gweithwyr i fyny ac i lawr; ac yn ail, yr arferiad o gyflogi bechgyn ar yr injans stêm i gludo'r gweithwyr i fyny ac i lawr, sy'n gyffredin yn Swydd Derby a Swydd Gaerhirfryn ac sy'n cael ei ddefnyddio'n achlysurol yn Swydd Efrog.
  24. Yn gyffredinol, mae gan y Plant a'r Bobl Ifanc sy'n gweithio yn y pyllau hyn ddigon o fwyd, a phan nad ydynt yn gweithio o dan y ddaear, mae'r cyflogau y maent yn eu hennill yn sicrhau bod ganddynt ddillad gweddus a chyfforddus; ond mewn llawer o achosion, yn enwedig mewn rhai ardaloedd o Swydd Efrog, Swydd Derby, De Swydd Gaerloyw, ac yn gyffredinol iawn yn Nwyrain yr Alban, mae'r bwyd o ansawdd gwael; mae'r Plant eu hunain yn dweud nad oes ganddynt ddigon i'w fwyta; yn ôl yr Is-Gomisiynwyr, mae'r plant yn gwisgo dillad carpiog ac yn dweud eu bod yn aros gartref ar ddydd Sul yn hytrach na mynd allan i gael awyr iach neu fynychu lle o addoliad am nad oes ganddynt ddillad i'w wisgo; felly yn yr achosion hyn, er gwaethaf gwaith caled y plant, nid ydynt yn cael digon o fwyd na dillad hyd yn oed: yn gyffredinol, fodd bynnag, mae'r Plant sydd yn y cyflwr truenus hwn yn Blant i rieni diog ac afradlon, sy'n gwario'r arian y mae eu plant wedi gweithio'n galed i'w ennill yn y dafarn.
  25. Mae'n gyffredin i'r rhai sy'n gweithio yn y pyllau hyn fagu cryfder corfforol neilltuol yn y lle cyntaf; ond mae'r datblygiad a'r cryfder annaturiol hwn yn digwydd ar draul organau eraill, gan fod twf y corff yn cael ei lesteirio.
  26. O ganlyniad yn rhannol i natur galed y gwaith a'r oriau gwaith hir, ac yn rhannol i gyflwr afiach y gweithle, mae'r gwaith hwn yn niweidio cyrff y gweithwyr ym mhob ardal; yn y pyllau sydd â gwythiennau tenau yn enwedig, mae coesau a breichiau'r gweithwyr yn cloffi a'u cyrff yn anffurfio; yn gyffredinol mae nerth cyhyrau'r gweithwyr yn pallu ac maent yn gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith yn iau na gweithwyr mewn diwydiannau eraill.
  27. Am yr un rhesymau, mae achosion clefydau poenus ac angheuol yn deillio'n nôl i blentyndod ac ieuenctid yn aml iawn; mae'r clefydau hyn yn datblygu'n araf a graddol nes cyrraedd eu llawn dwf pan fydd y gweithiwr rhwng deg ar hugain a deugain oed; ac mae pobl sy'n perthyn i'r dosbarth hwn o'r boblogaeth yn marw yn gyffredinol yn eu 50au cynnar.

O ystyried pa mor fawr yw'r diwydiant hwn, y symiau mawr o gyfalaf a fuddsoddir ynddo a'r cysylltiad agos sydd ganddo â bron pob maes diwydiant a gweithgynhyrchu arall fel prif ffynhonnell ein cyfoeth a'n mawredd cenedlaethol, gellir cyrraedd y ddau gasgliad canlynol ar sail tystiolaeth ddiamheuol:-

  1. Pan fydd y systemau awyru a draenio yn gweithio'n dda, y prif dramwyfeydd a'r rhai ar yr ochrau o uchder derbyniol a'r tymheredd yn gymhedrol ac yn gyson, mae'r pwll glo yn cael ei ystyried yn weithle sydd yr un mor iach a hyd yn oed mor ddymunol â llawer o weithleoedd ar y tir.
  2. Nid yw prif lafur Plant a Phobl Ifanc yn y pyllau glo, sef gwthio cerbydau glo llawn o'r gwaith i'r prif ffyrdd neu i droed y siafft, yn waith afiach yn ei hanfod; mae'r gwaith hwn yn datblygu cyhyrau'r breichiau, yr ysgwyddau, y frest, y cefn a'r coesau heb gyfyngu unrhyw ran o'r corff mewn osgo annaturiol a chyfyngedig, ac oni bai am y camddefnydd o'r llafur hwn, gallai ddatblygu'r holl organau eraill hefyd; mae'r anafiadau corfforol sy'n deillio o'r gwaith hwn, nad ydynt yn gysylltiedig â systemau awyru a draenio diffygiol, i'w priodoli yn bennaf i'r ffaith fod y plant yn dechrau'r gwaith yn ifanc iawn ac yn parhau i'w wneud am gyfnod maith.

Fodd bynnag, mae anhwaster neilltuol yn codi pan fydd yr holl ffyrdd tanddaearol, yn enwedig y tramwyfeydd ar yr ochrau, yn is nag uchder penodol. Mae'r Dystiolaeth a gasglwyd gan y Comisiwn hwn yn dangos bod y tramwyfeydd mewn rhai pyllau mor gyfyng nes ei bod hi'n amhosibl i hyd yn oed y Plant ieuengaf deithio trwyddynt heb gropian ar eu dwylo a'u traed, a'u bod yn gorfod llusgo cerbydau glo yn yr osgo annaturiol a chyfyngedig hwn; ac eto, gan y byddai colledion ariannol yn deillio o sicrhau bod pyllau glo prin o'r math hwn yn llefydd priodol i bobl weithio, ni fydd eu cyflwr byth yn gwella a byddant wastad yn niweidio iechyd y Plant sy'n gweithio ynddynt mewn ffordd ddifrifol a pharhaol.

[Mae'r casgliadau canlynol yn ymwneud â mwyngloddiau haearn, ffwrneisiau chwyth, llafur tanddaearol yn y diwydiannau tun, copr, plwm a'r pyllau sinc ac ati.]

THOS TOOKE, T.SOUTHWOOD SMITH, LEONARD HORNER, ROBERT J. SAUNDERS.
Children's Employment Commission ( Mines) 1842, cyf XV, tt. 225-259.