Mae yna dair elfen i'r adran hon.

Ymarferiad Mapio Rhyngweithiol

Ymarferiad ‘llusgosod' yw hwn i greu map o Flaenafon sy'n dangos y prif adeiladau a nodweddion erbyn y flwyddyn 1842. Mae modd ychwanegu nodweddion at y map mewn tair cylchfa amser: cyn 1800; erbyn 1825; erbyn 1842. Os yw nodweddion yn cael eu llusgo ar y map yn y gylchfa amser anghywir, byddant yn cael eu gwrthod a'u hanfon yn ôl. Mae rhestr o ddyddiadau allweddol yn natblygiad Blaenafon wedi'i chynnwys i alluogi'r plant i greu'r map yn y drefn gywir. Mae gan y nodweddion eu hunain siapiau penodol a dim ond un lle cymwys sydd ar eu cyfer ar y map. Rhaid cofio mai creu teimlad o ddatblygiad cronolegol y dref yw diben yr ymarferiad, ac nid oeddem am i'r plant wynebu problemau oherwydd nad oeddent yn gwybod lleoliad pob capel, er enghraifft.

Mae cynllun sylfaenol y dref sy'n cael ei ddefnyddio fel fframwaith yn seiliedig ar fap y degwm 1843.

Ar ôl cwblhau'r ymarferiad, gall y plant ddefnyddio'r tab llithr ar y llinell amser i adolygu cyfansoddiad y dref ar unrhyw adeg rhwng 1800 a 1842. Mae hyn yn eu galluogi wedyn i ddysgu mwy am gynllun daearyddol y dref.

Roedd amodau byw ym Mlaenafon yn sylfaenol a garw iawn yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae'n bosibl bod y lle'n debyg i dref ffin neu anheddiad mwyngloddio yng ngorllewin America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel sy'n cael eu gweld yn aml mewn ffilmiau ac ar y teledu. Mae'n debyg na wnaeth Blaenafon dyfu i fod yn dref tan ar ôl 1850. Mor hwyr â 1876 mae teithiwr yn disgrifio Blaenafon fel hyn:

...Tua chwe milltir o Bont-y-pŵl i gyfeiriad Cwmbrân fe saif tref anorffenedig Blaenafon. Lle sy'n llawn glowyr a gweithwyr haearn yw Blaenafon. Fyddai neb yn ystyried byw yno oni bai bod ganddynt ryw fath o gysylltiad â'r glowyr neu'r gweithfeydd...

Roedd y tai'n fach iawn ac nid oedd palmantau ar y strydoedd na systemau draenio na charthffosiaeth addas. O ganlyniad, roedd amodau byw'r trigolion yn llym iawn os nad yn gyfan gwbl angheuol.

Taflen Weithgaredd Twf Poblogaeth

Gweithgaredd syml yw hwn sy'n cymharu ffigurau poblogaeth Blaenafon â thref sirol Trefynwy ac yn gofyn am resymau i egluro'r gwahaniaeth rhwng twf y ddwy dref. Trefynwy oedd prif dref draddodiadol y sir, yn anheddiad Canoloesol gwreiddiol, yn dref farchnad ar gyfer y wlad o'i chwmpas ac yn gartref Brawdlys y sir. Fodd bynnag, ni chafodd ei heffeithio gan y broses ddiwydiannu, ac roedd ei maint a'i phoblogaeth yn gymharol sefydlog gydol y cyfnod Fictoraidd. Ar y llaw arall, y Chwyldro Diwydiannol oedd yn gwbl gyfrifol am fodolaeth Blaenafon, ac wrth i'r galw am haearn a glo gynyddu, tyfodd y dref ar raddfa anhygoel.

Ymarferiad Ysgrifennu Dychmygus Dychwelyd i Flaenafon

Ymarferiad ysgrifennu creadigol yw hwn lle mae'r plant yn dychmygu eu bod yn frodor hŷn o'r cwm a symudodd i ffwrdd cyn y broses ddiwydiannu ac sydd wedi dychwelyd am y tro cyntaf ym 1842. Y dasg yw ysgrifennu llythyr at ffrind neu berthynas yn disgrifio'r newidiadau sydd wedi digwydd yn eich ardal enedigol a'ch ymateb iddynt.

Yn y llythyr enghreifftiol sy'n cael ei gynnwys yn yr adran hon, rydym wedi portreadu'r dref mewn ffordd eithaf negyddol, gan bwysleisio'r sŵn, yr anhrefn, y llygredd a garwedd ei phobl. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y plant yn portreadu'r dref mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, yn ystod ei ymweliad â Sir Fynwy ym 1800, cofnododd yr Archddiacon William Coxe y sylwadau canlynol am waith haearn Nant y Glo, a sefydlwyd ym 1795 mewn cwm gwledig tebyg gerllaw (ond a oedd wedi cau dros dro adeg yr ymweliad):

Mae'n drist gweld bod y gwaith wedi cau gan ei fod wedi dod â bywyd ac ysbryd newydd i'r ardaloedd llwm hyn, a byddai wedi bywiogi'r ardaloedd cyfagos cyn bo hir hefyd.

Rhaid cofio, wrth gwrs, bod Coxe wedi ymweld â'r gwaith am ychydig oriau yn unig ac nad oedd rhaid iddo fyw yn Nant y Glo. Roedd wrth ei fodd â Blaenafon:

Er mai dim ond ym 1789 yr agorwyd y gwaith, mae tri chant a hanner o ddynion yn cael eu cyflogi yno ac mae dros fil o bobl yn byw yn yr ardal. Mae pantiau'r creigiau ac ochrau'r mynyddoedd yn gyforiog o gartrefi ac mae'r tiroedd wedi'u trawsnewid yn ŷd a phorfa. Dyma ganlyniad anhygoel diwydiant wrth gael ei lywio'n gall!

Nid yw'r ymarferiad yn chwilio am agwedd ‘gywir' neu ‘anghywir' tuag at dwf Blaenafon (a gall athrawon ddewis anwybyddu'r llythyr enghreifftiol yn gyfan gwbl os ydynt yn dymuno). Mae'n bosibl y bydd sefyllfa'r gweithwyr yn ennill cydymdeimlad y plant, yn enwedig yr oriau gwaith hir, yr amodau peryglus, y tai gwael a'r cyflogau isel.

Fodd bynnag, fel William Coxe, mae'n bosibl y bydd bywiogrwydd a phrysurdeb y datblygiadau diwydiannol a threfol a'u cyfraniad at dwf cyfoeth a llewyrch ym Mhrydain yn creu argraff ar y plant. Yn ddi-os, llwyddodd diwydiant i ddod â swyddi, cyfleusterau a dulliau cysylltu newydd i ardaloedd a oedd gynt heb fawr o boblogaeth, heb eu datblygu ac yn anghysbell. Daeth rhai pobl yn gyfoethog iawn yn sgil y diwydiannau ac enillodd Prydain statws digyffelyb yn y byd o ganlyniad. Fodd bynnag, roedd pris i'w dalu am gyflymder twf y dref, sef ansawdd yr adeiladau, y strydoedd a glanweithdra, ac mae'n debyg nad oedd gan dref Blaenafon fawr o werth esthetig ym 1842.

Ai cofadail anferth i ymdrech, mentergarwch a grym oedd datblygu Blaenafon ynteu'n broses o ‘reibio'r wlad hardd'? Gellid defnyddio hyn fel sail ardderchog ar gyfer trafodaeth ddosbarth cyn i'r plant fwrw iddi â'r ymarferiad ysgrifennu.

Yn y pen draw, bydd y plant yn ymateb yn unol â'u safbwyntiau a'u teimladau eu hunain. Wrth asesu eu gwaith, dylai athrawon nodi i ba raddau y mae eu hatebion wedi'u llywio gan y dystiolaeth y maent wedi'i chasglu. Mae'n bosibl y bydd dehongliadau'r plant yn wahanol i rai'r athro, ond os ydynt yn dangos dealltwriaeth o'r materion, yn cael eu llywio gan wybodaeth ffeithiol ac wedi'u mynegi'n dda, dylent gael eu canmol yn llawn.

Prif nod yr adran hon yw datblygu dealltwriaeth o'r ffaith fod y broses ddiwydiannu wedi arwain at dwf cyflym trefi a dylifiad anferth o bobl i ardaloedd a oedd gynt yn wag. Wrth ddefnyddio'r wybodaeth o'r adrannau blaenorol, y gobaith yw y bydd y plant yn sylweddoli bod y cynnydd sydyn mewn poblogaeth wedi cael dylanwad mawr ar ansawdd y tai, iechyd y cyhoedd a chyfleusterau'r dref.