Polisi Amddiffyn Plant: Atodiad 6 - Ymddygiad grwpiau yn yr Amgueddfa

Chwefror 1005

Mae'r Amgueddfa am i bob ymwelydd fwynhau eu hamser gyda ni. Felly rydym ni'n disgwyl i'n holl ymwelwyr ddangos cwrteisi a pharch at eraill ac at eiddo'r Amgueddfa bob amser.

Felly ni ddylai arweinwyr grwpiau adael i aelodau eu grwpiau:

  • Ymddwyn mewn ffordd fygythiol, difrïol neu dreisgar.
  • Bwlio (ar lafar neu'n gorfforol).
  • Gwneud sylwadau rhywiaethol, hiliol neu unrhyw sylwadau cas eraill am unrhyw berson neu grŵp arall.
  • Fandaleiddio eiddo neu arddangosfeydd yr Amgueddfa.
  • Gadael sbwriel ar eiddo'r Amgueddfa.
  • Bwydo, cyffwrdd, dychryn neu frifo unrhyw anifeiliaid sydd yno.
  • Mynd i rannau o'r Amgueddfa sydd wedi eu hamgylchynu.
  • Defnyddio iaith anweddus.
  • Ysmygu.
  • Yfed diodydd meddwol y tu hwnt i'r mannau pwrpasol (e.e. bwytai a mannau picnic) neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
  • Bwyta neu yfed heblaw mewn caffis, bwytai a mannau a neilltuir ar gyfer bwyta pecynnau bwyd.
  • Defnyddio ffôn boced yn yr orielau.

Os na ddilynir unrhyw un o'r uchod, mae'r Amgueddfa'n cadw'r hawl i wrthod mynediad a/neu hel y grŵp o'r safle.