Tŷ'r Peiriannydd

Dysgu sut fyddai gwragedd yn ymdopi â'u holl waith yn nechrau'r 20fed ganrif
Dysgu sut fyddai gwragedd yn ymdopi â'u holl waith yn nechrau'r 20fed ganrif

Dyma'r adeilad cyntaf a welwch wrth droi i'r chwith wedi'r porth. Y Peiriannydd oedd yn gyfrifol am bob agwedd ar y gwaith peirianyddol yn y chwarel. Roedd yn gyfleus iddo felly fyw mewn tŷ a oedd yn rhan o'r cwrt ei hun. Ar wahanol gyfnodau rhwng 1870 a 1969 bu cyfres o Beirianwyr a Gofalwyr y Gilfach Ddu a'u teuluoedd yn byw yma. Bellach fe'i dodrefnwyd fel y buasai ym 1911, a'r llenni melfed coch a'r organ yn y parlwr yn adlewyrchu tipyn gwell byd nag oedd i'w weld yng nghartrefi'r chwarelwyr cyffredin yn y pentref islaw. Gwelir cegin, parlwr ac ystafell fyw o'r cyfnod; bellach mae'r ystafelloedd gwely i fyny'r grisiau yn swyddfeydd.

Fel y mae'r Golchdy yn ei awgrymu, rhwng y gwaith golchi, glanhau, twtio a phobi — heb sôn am fagu plant – bywydau digon caled a gawsai’r gwragedd fu’n byw yn Nhŷ'r Periannydd. Ar ben hynny i gyd, roedd gofyn cadw'r parlwr fel pin mewn papur rhag ofn y deuai ‘pobl ddiarth’ i ymweld — a hynny ynghanol yr holl lafur, llwch a sŵn a godai o'r iard.

Byddai'r tŷ hwn , gyda’I gyflenwad o drydan, yn fwy chysurus na chartrefi'r chwarelwyr cyffredin a'r dynion a weithiai yn yr iard — tai fel rhes Fron Haul, sydd i’w gweld y tu hwnt i’r Ffowntan. Ond er moethusrwydd Tŷ'r Peiriannydd, roedd yn ddistadl iawn o'i gymharu â chartref ysblennydd perchnogion y chwarel yn Y Faenol. Bellach, mae’n fan ardderchog i ddangos sut yr oedd pobl gyffredin yr ardal yn byw ac yn gweithio yn negawdau cyntaf yr 20fed ganrif.