Cefndir

Archaeoleg cymuned Darganfod Wyddgrug yr Oes Efydd
delwedd gan Philip Culver

Ym 1833, darganfuwyd Mantell Aur yr Wyddgrug gan grŵp o weithwyr wrth iddynt gloddio am gerrig a gro i drwsio ffordd gyfagos. Yn ogystal â’r Fantell, canfuwyd mwclis o tua 300 glain ambr, cyllell efydd, llestr cerameg a gweddillion sgerbwd dynol.

Yn y dyddiau cynnar wedi canfod y Fantell, aeth perchennog y tir ati i werthu darnau ohoni i haneswyr a chasglwyr lleol. Lansiwyd ymgyrch fawr i gasglu’r darnau ynghyd unwaith eto gan yr Amgueddfa Brydeinig. Roeddent am gaffael a gofalu am y gwrthrych ac nid oedd gan Gymru amgueddfa genedlaethol ei hun bryd hynny. Heddiw, mae’r Fantell bron yn gyfan, ond dim ond un glain a oroesodd. Methiant hefyd fu’r ymdrech i ganfod y sgerbwd a’r llestr a gladdwyd gyda’r Fantell.

Mae deall ac esbonio Mantell Aur yr Wyddgrug wedi sbarduno ymchwil byth ers y darganfyddiad. Codwyd plac i goffau’r gladdedigaeth ar dŷ yn Heol Caer yn y dref yn honni taw dyma fan claddu Benlli Gawr, un o frenhinoedd chwedlonol Powys y 5ed ganrif. Ond erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd y dehongliad hwn wedi newid wrth i archaeolegwyr sylweddoli fod y gwrthrych dipyn yn hŷn. Sylweddolwyd bod y Fantell yn perthyn i draddodiad ehangach yn Ewrop yr Oes Efydd o greu gwrthrychau statws o aur. Yn y 1950au, dyddiwyd y Fantell gan T. G. E. Powell i Ganol yr Oes Efydd, tua 3,000-3,500 o flynyddoedd yn ôl (Powell 1953). Rai blynyddoedd yn ôl diwygiwyd y dyddiad hwn drachefn yn dilyn gwaith ymchwil Stuart Needham, a bellach caiff y Fantell ei dyddio i’r Oes Efydd Gynnar, tua 3,600 i 3,900 o flynyddoedd yn ôl (Needham 2012).

Newidiodd ein dehongliad o’r gwrthrych gryn dipyn hefyd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Damcaniaeth gyntaf yr Amgueddfa Brydeinig oedd taw dwyfronneg ceffyl oedd y gwrthrych, a’i fod wedi’i greu ar gyfer merlyn Cymreig (British Museum 1904). Gwrthodwyd y syniad hwn ac ym 1953 ysgrifennodd T. G. E. Powell erthygl fanwl gan awgrymu taw Mantell oedd y gwrthrych aur gael a gladdwyd gyda sgerbwd glaslanc. Diwygiwyd y dehongliad unwaith eto yn dilyn gwaith ymchwil diweddarach, a’r gred bellach yw y gallai’r Fantell fod wedi’i chladdu gyda sgerbwd menyw (British Museum 2005; Needham 2012). Y gwrthrychau claddu eraill yw sail y ddamcaniaeth hon – y gleiniau ambr a’r llafn efydd – yn hytrach na maint y Fantell.

Archaeoleg cymuned Darganfod Wyddgrug yr Oes Efydd

Pwy oedd yr unigolyn hwn a gladdwyd gyda’r Fantell? A pham eu claddu ar fryn ger Afon Alun bron i 4,000 o flynyddoedd yn ôl? Erbyn hyn, rydym ni’n credu bod yr ardal hon yn Sir y Fflint yn ganolfan ar gyfer seremonïau a chladdedigaethau ddiwedd y Cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd. Mae Mantell Aur yr Wyddgrug yn dangos pwysigrwydd y rhanbarth ac Afon Alun fel canolbwynt y tirlun defodol hwn. Efallai na fyddwn ni byth yn gallu ateb y cwestiynau yma’n bendant, ond mae eu hystyried mewn cyd-destun seremonïol ehangach yn rhoi dealltwriaeth well i ni.

Hefyd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru mae nifer o arteffactau pwysig eraill o Ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd ger Afon Alun, fel Powlen Caergwrle a chelciau Burton a Llanarmon-yn-iâl. Ymhlith y gwrthrychau Oes Efydd pwysig eraill o’r ardal mae celc Rossett a mwclis siâl a muchudd Llong, a ganfuwyd mewn claddedigaeth hefyd. O ganlyniad i’r berthynas rhwng Afon Alun a’r modd y dyddodwyd y gwrthrychau yma, mae archaeolegwyr bellach yn ystyried bod pwysigrwydd symbolaidd parhaus i’r afon a’r cyffiniau yn y cyfnod.