Derwyddiaeth

O'r ail ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diddordeb mawr iawn gan ysgolheigion Prydain ym mhopeth Celtaidd a druidmania yn fyw ac yn iach. Un o'r cyntaf i ymddiddori oedd yr hynafiaethydd John Aubrey, a awgrymodd yn 1659 fod cylchoedd cerrig Côr y Cewri ac Avebury wedi'u hadeiladu gan y Celtiaid i fod yn demlau i'w derwyddon. Yn sgil hynny cynhaliodd y Gwyddel J. J. Tolland gyfarfod i dderwyddon yn Primrose Hill yn Llundain yn 1717 a sefydlodd urdd The Ancient Order of Druids.

Yng Nghymru roedd Henry Rowlands (1655-1723), hynafiaethydd o Fôn, wedi ceisio profi yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata (1723) mai olion temlau'r derwyddon oedd y cromlechi ar yr ynys. Ond pan deithiodd Iolo Morgannwg i Fôn ddiwedd y ddeunawfed ganrif cafodd ei siomi gan 'the exceedingly pitiful monuments of that Island' a gwelodd e gyfle i ganu clodydd hynafiaethau Morgannwg yn eu lle.

Nid yw Archdderwydd na Derwyddon Gorsedd Beirdd Ynys Prydain heddiw yn olrhain eu hachau yn ôl i fyd y derwyddon Celtaidd ond mae'r ffaith fod yr Orsedd yn cyfarfod o fewn cylch o feini yn brawf o ddylanwad neo-dderwyddiaeth ei gyfnod ar ddychymyg byw Iolo Morganwg.

Darlun 'The Bard' gan Phillippe J. de Loutherbourg, 1794.
Y darlun The Bard gan Phillippe J. de Loutherbourg - tudalen flaen Musicale Poetical Relicks of the Welsh Bards gan Edward Jones; ail argraffiad, 1794.
'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith.
'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith.
Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723)
Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723)