Gorsedd Beirdd Ynys Prydain 1792

Braslun Iolo o Gylch yr Orsedd (y Cylch Cynghrair)
Braslun o Gylch yr Orsedd (y Cylch Cynghrair) yn llawysgrifen Iolo Morganwg. Noder y sylw 'the Bards stand unshod and uncovered within the circle'.

Ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu (Primrose Hill) yn Llundain y cynhaliwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain am y tro cyntaf erioed. Yna, cynhaliwyd ail Orsedd ar Fedi 22 ac mae gennym adroddiad ardderchog o'r seremoni hon o bapur newydd y Morning Chronicle:

Saturday, Sept 22, being a day on which the autumnal equinox occurred … some Welch Bards, resident in London, assembled in Congress on Primrose Hill, according to ancient usage, which required that it should be in the eye of the public observation, in the open air, in a conspicuous place, and whilst the sun is above the horizon. The wonted ceremonies were observed. A circle of stone was formed, in the middle of which was the Maen Gorsedd, or altar, on which a naked sword being placed, all the bards assisted to sheathe it. … On this occasion the Bards appeared in the insignia of their various Orders.'

Cafwyd sawl seremoni arall yn Llundain ac yn 1795 dychwelodd Iolo i Forgannwg a chynnal ei Orsedd gyntaf yno. Ond roedd yr awdurdodau yn amheus ei fod yn hyrwyddo syniadau gwleidyddol chwyldroadol ac felly bu'n rhaid aros tan ddiwedd y rhyfel, yn 1815, cyn i Orsedd Beirdd Ynys Prydain gael cyfle i fwrw gwreiddiau yn iawn.