Eisteddfod a Gorsedd Caerfyrddin 1819

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819
Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819.
Y Fedal a enillwyd gan Gwallter Mechain yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819.
Y Fedal a enillwyd gan Gwallter Mechain (Walter Davies) yn eisteddfod daleithiol Caerfyrddin 1819 (cefn).

Yn 1789 roedd Cymdeithas y Gwyneddigion wedi rhoi hwb a nawdd i eisteddfod yn y Bala er mwyn codi safon a statws eisteddfodau yng Nghymru. O hyn tyfodd mudiad yr eisteddfodau taleithiol ac erbyn 1819 roedd Esgob Tyddewi, Thomas Burgess, yn awyddus iawn i sefydlu eisteddfod o'r fath yng Nghaerfyrddin ac i'w chynnal yng Nghwesty'r Llwyn Iorwg. Enillodd Gwallter Mechain wobr am yr awdl orau a chlymodd Iolo Morganwg ysnoden neu fandyn glas am ei fraich fel arwydd ei fod yn perthyn i Urdd Bardd yng Ngorsedd y Beirdd.

Trannoeth, yng ngerddi'r gwesty, cynhaliodd Iolo seremoni orseddol o fewn cylch o gerrig mân a dynnodd o'i boced. Trwy hynny llwyddodd i drawsnewid dyfodol yr Orsedd a'i chysylltu â'r mudiad eisteddfodol. O'r digwyddiad syml hwn y datblygodd Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y dwedodd G. J. Williams, 'rhoes Iolo i genedl y Cymry sefydliad cenedlaethol'.