Eisteddfod a Gorsedd Llangollen 1858 ac Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol cynnar

Trefn seremoni'r Orsedd, Medi 21, 1858 yn Llangollen.
Copi o drefn seremoni'r Orsedd, Medi 21, 1858 yn Llangollen. AWC Llsgr. 2435 /280
Dr William Price, Llantrisant fel Derwydd
Dr William Price, Llantrisant fel Derwydd

Rhwng 1819 a 1840 câi ambell Orsedd ei chynnal yn yr eisteddfodau taleithiol ond doedd dim ffurf na threfn bendant i'r rhain. Yna, yn 1858, penderfynodd Ab Ithel (John Williams, 1811-1862), rheithor Llanymawddwy a gŵr oedd wedi meddwi'n gorn ar syniadau Iolo Morganwg, geisio sefydlu eisteddfod a gorsedd genedlaethol yn Llangollen yn enw Cadair daleithiol Powys. Heidiodd miloedd yno ac yn yr Orsedd gwelwyd golygfa ryfeddol Myfyr Morganwg fel derwydd ag ŵy derwyddol wrth linyn am ei wddf, a'r Dr William Price, Llantrisant, mewn penwisg o groen cadno.

Er gwaetha'r olygfa hon bu eisteddfod a gorsedd Llangollen yn drobwynt yn hanes y mudiadau eisteddfodol a gorseddol oherwydd dyma fan cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol â Gorsedd y Beirdd yn rhan ganolog o'i gweithgareddau. Yn Aberdâr, yn 1861, gwireddwyd breuddwyd Ab Ithel a chynhaliwyd yr Eisteddfod a'r Orsedd Cenedlaethol cyntaf.

Yn ystod y blynyddoedd canlynol datblygodd seremonïau'r Orsedd ond doedd pawb ddim yn gefnogol iddynt. I Cynddelw (Robert Ellis) roedd y derwyddon fel 'pac o wallgofiaid' ac ofnai eraill nad oedd y defodau hynafol yn gweddu i 'Oes Cynnydd' Oes Victoria. Cafodd gohebydd y Times fodd i fyw yn 1867 yn gwawdio:

'This remarkable piece of pantomime- the puerile fopperies of making Druids in broadcloth and Ovates in crinoline'.