Cynan (Albert Evans-Jones) a phasiantri'r Orsedd

Portread gan C.F.Tunnicliffe o'r Archdderwydd Cynan, 1953.
Portread gan C. F. Tunnicliffe o'r Archdderwydd Cynan, 1953.

Yn 1935, etholwyd Cynan (Albert Evans-Jones 1895-1970) yn Gofiadur yr Orsedd, swydd a ddaliodd, rhwng bod yn Archdderwydd ddwywaith (1950-54 a 1963-66), tan 1970. Roedd gan Cynan ddiddordeb mawr, fel awdur a pherfformiwr, ym maes y theatr a defnyddiodd ei ddawn yn y cyswllt hwn i greu seremonïau mwy lliwgar, dramatig a disgybledig ar gyfer yr Orsedd. Mireiniodd ddefod Cyflwyno'r Aberthged, cyfansoddodd eiriau newydd ar gyfer Cân y Cadeirio a dyfeisiodd ef ac athrawesau bro Machynlleth y Ddawns Flodau yn 1936.

Llwyddodd Cynan i gael yr Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod i gytuno i greu un corff cenedlaethol, sef Llys yr Eisteddfod, i'w rheoli a thrwy hyn sicrhawyd bod y ddwy elfen allweddol yma yn bartneriaid cyfartal. At hyn yr oedd y Cyfansoddiad newydd y cytunwyd arno yn 1937 ac a ddaeth i oed yng Nghaerffili yn 1950 yn ymgorffori'r Rheol Gymraeg. Fel y nododd Ernest Roberts:

'Cynan, a neb arall, a wnaeth yr Orsedd yn un o brif atyniadau ein Gŵyl Genedlaethol'. Dyma wedi'r cyfan, meddai, 'yr unig basiantri cenedlaethol sydd gennym.'