Neb yn Deilwng

Neb yn deilwng am y Goron, Aberdâr, 1956.
Y Cleddyf Mawr ar draws y gadair - neb yn deilwng am y Goron, Aberdâr, 1956. Yn y llun mae Erfyl Fychan, Arwyddfardd; Trefin, Ceidwad y Cledd; Dyfnallt, Archdderwydd; Cynan, Cofiadur.
Doedd neb yn deilwng i ennill y Gadair yng Nghaerdydd, 1978
Doedd neb yn deilwng i ennill y Gadair yng Nghaerdydd, 1978; er gwaetha'r siom mwynhaodd y dyrfa ddatganiadau Syr Geraint Evans o Gân y Cadeirio a 'Y Marchog'.

Yn achlysurol dyfarna beirniaid y prif gystadlaethau nad oes bardd neu lenor yn deilwng o ennill y wobr genedlaethol. Mewn erthygl yn y National Geographic yn 1965 disgrifiodd yr Awstraliad, Alan Villiers, effaith hyn ar gynulleidfa pafiliwn Llandudno yn ystod defod y Cadeirio yn 1963:

'No event symbolizes more vividly the poetic soul of the Welsh and the unyielding pride and integrity that accompany it than the ceremony of Chairing the Bard. This is the high point of the annual National Eisteddfod. … The large stage of an enormous prefabricated pavilion was banked with robed bardic dignitaries and the television lights stabbed at them like searchlights'.

Ond wedi dyfarniad y beirniaid Thomas Parry, T.H.Parry-Williams a William Morris, 'No poem submitted was deemed worthy, … the ritual Chairing of the Bard would not take place. Merit before ritual - no ritual for its own sake! … The 8,000 still sat there in the huge pavilion, as if they had been stunned. Where else, I thought, would people feel so intensely about poetry?'

Fel arwydd o'r diffyg teilyngdod bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn gosod y Cleddyf Mawr i orffwys ar draws breichiau'r gadair wag lle byddai'r bardd neu'r llenor arobryn wedi eistedd.