Y Corn Gwlad

Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan anhepgor o ddefodaeth yr Orsedd yng nghylch yr Orsedd ac yn arbennig wrth iddynt alw'r buddugwyr i lwyfan y genedlaethol.

Does dim sicrwydd pryd y cynhwyswyd ffanffer Corn Gwlad gyntaf yn y seremonïau ond erbyn yr 1860au roedd 'udganiad yr udgorn' yn rhan 'arferol' o ddefod y Maen Llog.

Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Edward Jones, Maer Pwllheli, Gorn Gwlad arian at ddefnydd yr Orsedd. Yna, yn 1900 nododd Alicia A. Needham, cyfansoddwraig Wyddelig ei bod wedi archebu trwmped arian newydd ag arno faner y ddraig goch. Meddai:

'I know it will look much more dignified and appropriate than the Cornet which was used at Cardiff, and which seemed altogether too modern.'

Cynlluniwyd gŵn a chapan yr utganwr gan Isaac Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.

Bu aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn utganwyr cyson wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn 1947 cyfansoddodd Haydn Morris (Haydn Bencerdd) ffanffer ar gyfer yr amryfal seremonïau.

Ers hynny gwasanaethwyd yr Orsedd gan nifer o utganwyr.

Erbyn hyn roedd pâr o utgyrn arian o seremoni Goroni'r Frenhines (1953) yn cael eu defnyddio. Cyflwynwyd hwy i'r Orsedd gan Gronfa Goffa y cyn-Arwyddfardd, Sieffre o Gyfarthfa a brodiwyd y banerigau pendant gan Miss Iles, Brynsiencyn.