Y Cleddyf Mawr

Un o ddefodau hynaf yr Orsedd yw seremoni dadweinio'r Cleddyf Mawr yn rhannol. Bydd yr Archdderwydd yn datgan y cyswyneiriau canlynol a'r gynulleidfa yn ateb 'Heddwch' iddynt deirgwaith:

'Y gwir yn erbyn y byd, A oes Heddwch?
Calon wrth galon, A oes Heddwch?
Gwaedd uwch adwaedd, A oes Heddwch?'

Yr oedd cario cleddyf yn rhan o ddefodaeth Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792. Fel heddychwr pwsyleisiai Iolo mai mewn heddwch yr ymgynullai beirdd Gorsedd Ynys Prydain a phan osodwyd cleddyf noeth ar Faen yr Orsedd cynorthwyodd y beirdd oedd yn bresennol i wisgo'r wain amdano fel arwydd o Heddwch yng Ngorsedd.

Defod ar wahân oedd yr un lle gelwid allan am 'Heddwch' ar y dechrau ond yn raddol daethpwyd i'w chysylltu â defod y cleddyf.

Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Phillip Yorke o Blas Erddig gleddyf seremonïol a ddefnyddiwyd tan droad y ganrif.

Gorsedd y Beirdd, Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909
Gorsedd y Beirdd, Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909; noder y meini bychain.

Yna , yng Nghaerdydd, 1899, cynlluniodd yr Athro Hubert Herkomer Gleddyf Mawr ar gyfer Gorsedd y Beirdd. Eglurodd symboliaeth y cynllun:

  • crisial naturiol y carn yn cynrychioli cyfriniaeth;
  • y tair llinell sanctaidd yn cynrychioli'r ymdrech gyntaf i ysgrifennu 'Iehofa';
  • y ddraig - i'w gwarchod.
  • Ar y wain roedd y cyswyneiriau:
    • 'Y gwir yn erbyn y byd' (cyswynair Gorsedd Beirdd Ynys Prydain)
    • 'Duw a phob Daioni' (Cadair Morgannwg a Gwent)
    • 'Calon wrth Galon' (Cadair Dyfed)
    • 'A Laddo a Leddir' (Cadair Powys)
    • 'Iesu na ad gamwaith' (Cadair Gwynedd)

Dyma'r Cleddyf Mawr a ddefnyddir heddiw.