Y Corn Hirlas

Mrs Alicia Needham yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd, 1899.
Mrs Alicia Needham (Telyn yr Iwerddon) yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd Hwfa Môn, Caerdydd 1899.

Symbol yw'r Corn Hirlas o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd gan Fam y Fro lle cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbynnir enwebiadau ar gyfer y swydd ac fe'i dewisir gan banel o orseddogion.

Does dim sicrwydd pryd y dechreuwyd cyflwyno Corn Hirlas ond crybwyllir un yng Nghonwy (Cadair Gwynedd) yn 1861. Yna, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datganodd Arglwydd Tredegar (Ifor Hael yr Ail) ei fod yn bwriadu rhoi Corn Hirlas o waith y cynllunydd a'r cerflunydd o Gaerdydd, W. Goscombe John yn rhodd i'r Orsedd. Yn ôl yr artist talodd yr Arglwydd £359 iddo am ei lafur a'i ddefnyddiau. Yr oedd y Corn Hirlas yn barod i'w gyflwyno i'r Archdderwydd Hwfa Môn yng Nghaerdydd yn 1899.

Fe'i disgrifir fel corn ych (o Dde'r Affrig) wedi'i osod mewn arian yn gorwedd ar ddraig arian enfawr, gydag un grafanc yn dal pêl risial fawr. Yr oedd arfbais teulu Tredegar arno.

Cario'r Corn Hirlas ar elor yng ngorymdaith Pont-y-pŵl, 1924.
Cario'r Corn Hirlas ar elor yng ngorymdaith Pont-y-pŵl, 1924.

Cai'r Corn Hirlas ei gario ar elor yng ngorymdeithiau'r Orsedd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn 1923 cynlluniodd Arlunydd Pen-y-garn glogyn coch hardd ar gyfer y gyflwynwraig a rhoddwyd penwisg o lês aur gan Oswyn Afan.

Yn y cyfnod cynnar boneddigesau fel Alicia Needham o'r Iwerddon, Ardalyddes Môn neu Faeres tref yr Eisteddfod gâi'u dewis yn gyflwynwyr.

Wrth ddiwygio'r seremonïau yn y tridegau a gweithredu'r newidiadau hyn yn y pumdegau galwodd Cynan am ddewis 'un o Famau'r Fro' ar gyfer y swydd.