Y Ddau Hanner Cleddyf (a seremoni eu huno):

Hanner Cymru o'r ddau hanner cleddyf - gorseddau Cymru a Llydaw.
Hanner Cymru o'r ddau hanner cleddyf - gorseddau Cymru a Llydaw.

Seremoni rhwng cynrychiolwyr o Lydaw a Chymru oedd hon. Mae defod priodi'r ddau hanner cleddyf yn deillio yn ôl i Eisteddfod y Fenni yn 1838. Mewn cinio yno cafwyd anerchiad gan arweinydd carfan o Lydawyr - yr Is-Iarll Theódore Hersart de la Villemargué (Kervarker) a ddisgrifiodd frwydr Sant Kast, pan wrthododd y Llydawyr ymladd gyda Ffrancwyr a'r Cymry ag ymladd gyda'r Saeson. Yn hytrach, bu iddynt gofleidio mewn heddwch. Yn y cinio hefyd darllenwyd cerdd gan y bardd Lamartine sy'n crybwyll arfer y Cymry a'r Llydawyr o uno dau hanner cleddyf ynghyd fel symbol o heddwch a brawdgarwch. Bu hyn yn symbyliad i greu defod uno'r ddau hanner cleddyf.

Priodas y ddau hanner cleddyf,  1913.
Priodas y ddau hanner cleddyf, gyda'r Archdderwydd Dyfed, yn Y Fenni, 1913.

Yn raddol cyflwynwyd y ddefod ar sail cynllun yr Arwyddfardd, Arlunydd Pen-y-garn i'r Eisteddfodau Cenedlaethol ac wedi sefydlu Gorsedd Llydaw yn 1900 datblygodd yn symbol o undod dwy orsedd. Yng Nghaerfyrddin yn 1911 y gwelwyd y seremoni o fewn Cylch yr Orsedd am y tro cyntaf. Yr oedd yn ddefod boblogaidd hefyd pan deithiai Gorseddogion o Gymru draw i Lydaw. Câi ei chynnal yn achlysurol gydol yr ugeinfed ganrif er nad oedd y berthynas rhwng y Gorseddau bob amser yn ddedwydd. Gwelwyd y ddefod ddiwethaf ym Machynlleth yn 1981.