Menywod a'r Orsedd

Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949.
Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949.

Hyd yn hyn nid oes menyw wedi dal unrhyw un o brif swyddi Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac eithrio Meistresi'r Gwisgoedd ar hyd y blynyddoedd a Mererid, a benodwyd yn Swyddog Cysylltiadau Celtaidd yn 2004.

Ond o'r cychwyn cyntaf, o gofio ymlyniad Iolo Morganwg wrth egwyddor cydraddoldeb, ymdengys fod croeso i fenywod yn rhengoedd Gorsedd y Beirdd. Pan gynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yn Llundain, ym Mehefin 1792, urddwyd Sarah Elizabeth Owen i Urdd Ofydd, yn anffodus, mae'n debyg, nid am ei bod yn fardd na llenor, ond am ei bod yn wraig i William Owen (Pughe).

Y gyntaf i'w hurddo mewn Gorsedd yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin yn 1819, oedd Elizabeth Jones, Eos Bele, eto nid oherwydd ei dawn fel bardd ond am fod Ifor Ceri y trefnydd â'i fryd ar ei phriodi! Yn eisteddfod daleithiol Powys yn 1821 urddwyd tair arall - Angharad Llwyd, hynafiaethydd galluog o Gaerwys, Hester Cotton, dysgwraig a hynafiaethydd a Mair Richards, telynores o Ddarowen.

Mae adroddiadau'r eisteddfodau a'r gorseddau taleithiol wedi hyn yn nodi'n gyson fod menywod wedi'u hurddo a dilynwyd yr un patrwm gyda'r Gorseddau Cenedlaethol. Yn sgil hynny mae menywod wedi gwasanaethu fel cantorion, telynorion, cyflwynwyr y Corn Hirlas a'r Aberthged / Flodeuged, noddwyr, meistresi'r gwisgoedd, a merched y Ddawns Flodau yn seremonïau a defodau'r Orsedd.