Profiadau Archdderwydd

Lawrlwytho'r MP3 (3.5MB):
Atgofion Meirion Evans o fod yn Archdderwydd rhwng 1999 a 2002.

Meirion Evans - Y Cyn-Archdderwydd Meirion (1999-2002) yn disgrifio natur y swydd a'i atgofion am y cyfnod wrth Catrin Stevens:

Ma'r Archdderwydd yn cal 'i ddewis i wasanaethu am dymor o dair blynedd a wedyn odd 'na gyfarfod o Fwrdd yr Orsedd sef nifer o'r selogion a swyddogion yr Orsedd, a nhw wedyn yn derbyn enwebiade o blith aelode'r Bwrdd ac yn pleidleisio arnyn nhw. A fan'na yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn 1998, fan'na on i'n cal 'n newis.

Catrin: A beth yw rôl Archdderwydd?

Y cyn-Archdderwydd Meirion: Wel, yn gyhoeddus y peth amlwg, y peth ma pawb yn ei weld, ydy'r Archdderwydd yn llywio y gweithgaredde, y seremonïe, ar lwyfan yr Eisteddfod bob blwyddyn - seremoni y Coroni, sy hefyd yn golygu bod chi'n croesawu cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd, wedyn ar y dydd Mercher llywio seremoni y Prif Lenor a dydd Gwener llywio seremoni Cadeirio'r Bardd. Hefyd ych chi'n mynd, a nid dim ond yr Archdderwydd, ond ma hwn yn rhydd i aelode erill yr Orsedd i fynd i gynrychioli y brif Orsedd, sef Gorsedd Cymru, neu fel 'yn ni'n galw hi - Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, i gynrychioli yr Orsedd, yn seremonïe y gwledydd Celtaidd ag yn ystod 'nhymor i ges i'r cyfle i fynd i Lydaw i ddathlu canmlwyddiant 'u Gorsedd nhw. Hefyd ges i gyfle i fynd i Batagonia i ailsefydlu Gorsedd y Wladfa a gan Gorsedd Cymru, fel y Fam Orsedd, mae'r hawl i wneud y pethe 'ma i gyd. Ma'r Gorsedde ereill yn is-raddol, mewn ffordd, i Orsedd Cymru.

Catrin: Pa atgofion arbennig sy 'da chi am eich cyfnod pan och chi'n Archdderwydd?

Y cyn-Archdderwydd Meirion: On i'n ddiolchgar fod pob Coron, a phob Medal a phob Cader wedi'u hennill tra fues i'n Archdderwydd ac i goroni'r cyfan, yn fy seremoni ola - y Cadeirio ar y diwrnod ola yn Eisteddfod Dinbych fe gadeiriwyd merch - Mererid Hopwood - am y tro cynta eriod a bydd hwnna yn atgof fydd yn aros gyda fi. Beth yn ni'n neud yw rhoi pwyslais, a rhoi lle amlwg i rywun creadigol, i fardd neu lenor, rhoi lle amlwg, dangos bod ni'n gwerthfawrogi, dangos fod y bardd a'r llenor yn ddyn neu wraig o bwys yn y gymdeithas ac yn rhoi, yn cyflwyno, seremoni liwgar ystyrlon i ddangos hyn i'r genedl.

Catrin: A beth am y dyfodol?

Y cyn-Archdderwydd Meirion: Wel mi fydd 'na Orsedd i chi tra bydd Eisteddfod. Ma 'na bobl yn dal i fod yn dod ymlân i eistedd arholiade i fod yn aelode o'r Orsedd, pobol ifenc. A wedyn wrth gwrs ma 'na bobol ma'r Orsedd yn 'u hanrhydeddu nhw, oherwydd 'u cyfraniad nhw i fywyd, ryw agwedd arbennig ar fywyd yng Nghymru neu drwy'r byd. Ag ma 'na bobol yn ystyried y peth yn fraint fawr. Ma rhai yn dweud mai dyma'r fraint fwya ma nhw'n gâl yw fod 'u cyd-Gymry yn eu cydnabod nhw ac yn eu gwerthfawrogi nhw.

(Hawlfraint: Amgueddfa Werin Cymru)