Sut i Archebu - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Archebu Lle

Mae ein hamgueddfeydd ar agor. Gallwch drefnu ymweliad neu gymryd rhan mewn gweithdy rhithwir.
Gweithdai Rhithwir

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3600 i gadw lle. Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.

Dim ond un dosbarth, cyfanswm o 30 (plant a staff ysgol) fydd yn cael ymweld bob dydd.

Rhaid i'r grŵp rannu’n grwpiau llai, tua 10 o blant gydag un oedolyn fesul grŵp a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Rhaid i bob plentyn dros 11 oed, a phob oedolyn, wisgo gorchudd wyneb yn ein gofodau dan do.

Gofynnwn i grwpiau sy'n ymweld â'r safle ddilyn y systemau sydd wedi eu gosod, a chyfarwyddiadau staff.

Bydd amser yn ystafell ginio Vivian yn cael ei bennu yn ystod yr ymweliad, a gellir gadael eiddo personol yn y gofod. Cadwch at yr amser a bennwyd. Os yw'r tywydd yn caniatáu gallwch ddefnyddio un o'r gofodau tu allan ar unrhyw adeg i gael cinio. Cofiwch y bydd gardd yr Amgueddfa efallai’n cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr eraill, staff neu wirfoddolwyr.

Rhaid archebu tocynnau drwy linell archebu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Peidiwch archebu tocynnau i ysgolion drwy Eventbrite.

Bydd y profiad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn wahanol i'r arfer; ni allwn warantu o flaen llaw y bydd gofodau neu adeiladau ar agor yn ystod eich ymweliad. Pan fyddwch yn cyrraedd yr Amgueddfa bydd staff yn gallu rhoi cyngor ar ba adeiladau ac orielau sydd ar gael ar y diwrnod.

Prisau

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £40
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £60
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £100

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad.  Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.

Canslo

Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb.​ Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3600. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Nifer y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg ar gael yma [PDF].

Ymweld

Cofiwch oruchwylio’ch disgyblion drwy’r amser.

Gofynnwn i chi ddilyn y cymarebau canlynol:

  • Blwyddyn 1-3 (5-8 oed): 1 oedolyn cyfrifol : 6 o blant
  • Blwyddyn 4-6 (9-11 oed): 1 oedolyn cyfrifol : 10-15 o blant
  • Blwyddyn 7+ (11+ oed): 1 oedolyn cyfrifol : 15-20 o blant

Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw. /p>

Efallai na chaniateir mynediad i grwpiau o fyfyrwyr dan 16 oed heb oruchwyliaeth ddigonol neu heb oruchwyliaeth o gwbl.

Byddwn yn gofyn i grwpiau o 35 a mwy rannu’n grwpiau llai yn ystod eu hymweliad.

Dim ond pymtheg disgybl dan 16 oed a ganiateir yn Siop yr Amgueddfa ar yr un pryd, a rhaid i chi eu goruchwylio’n drwyadl.

Cyfleusterau i ymwelwyr ag anghenion arbennig

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu gofynion ymwelwyr ag anghenion arbennig. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wybod pa ddarpariaeth sy’n bosib.

Rhaid i ysgolion ac arweinwyr grwpiau ofalu fod trefniadau digonol ar waith fel bod goruchwyliaeth a chymorth digonol ar gael i ddisgyblion ag anghenion arbennig.

Mae’r Canllawiau Mynediad ar gael yma here.

Nam corfforol

Mae modd defnyddio cadair olwyn ym mhobman yn yr Amgueddfa, ac mae dau lifft i’r llawr cyntaf. Mae un o’r lifftiau hyn yn addas i gerbydau symudedd trydan.

Nam ar y golwg

Mae’r lefelau goleuo yn amrywio yn orielau’r Amgueddfa, gydag ambell le’n fwy llachar a thywyll na’i gilydd. Rhowch gyfle i’ch llygaid addasu i’r golau ym mhob ardal. Mae llawer o’r mannau arddangos yn cynnwys cyflwyniadau sain.

Nam ar y clyw

Mae dolenni sain ar gael ar gyfer y mannau arddangos o’r ddesg flaen. Mae llawer o’r arddangosfeydd yn cynnwys cyflwyniadau TG â dehongliadau iaith arwyddion Prydain.

Bwyd a diod

Gallwch archebu’r ystafell fwyta i ysgolion am hanner awr ar y tro. Hefyd, mae croeso i chi fwyta yng Ngardd Libart os yw’n braf.

Dim bwyta nac yfed yn yr orielau.

Tai bach

Mae tŷ bach â mynediad i bobl anabl, gyda lle i newid babanod, yn oriel yr Amgueddfa.

Mae dwy set o dai bach dynion a menywod, y naill ar y llawr gwaelod a’r llall ar lawr cyntaf adeilad yr hen warws. Mae tai bach i bobl anabl yno hefyd. Mae tŷ bach ychwanegol gyda chyfleusterau i bobl anabl ar y llawr isaf ym mhen draw’r orielau yn yr adeilad newydd.

Map

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael o ddesg y Dderbynfa.

Canllawiau’r Amgueddfa

Rhaid i ymwelwyr beidio â:

  • crwydro i lefydd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd
  • ymddwyn yn afreolus
  • cyffwrdd ag unrhyw beiriant sy’n gweithio neu arddangosfa na dringo arnynt

Mae’r Amgueddfa yn cadw’r hawl i ofyn i grwpiau ac unigolion sy’n ymddwyn yn sarhaus neu’n afreolus i adael y safle.

Cymorth Cyntaf

Os bydd angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Anghenion meddygol

Dylai arweinwyr ysgol neu grŵp gysylltu ag aelod o’r Tîm Addysg os oes gan ddisgybl unrhyw anghenion penodol neu gyflwr meddygol difrifol. Bydd angen i ni ystyried a thrafod trefniadau brys gyda chi.

Byddwn yn ceisio cynnwys disgyblion â chyflyrau meddygol penodol neu ddifrifol yn yr holl weithgareddau a gynigir, os yw’n ddiogel i wneud hynny.

Dylai pawb sy’n gwisgo cymorth clyw switsio’r teclyn i "T" er mwyn clywed yr arddangosfeydd yn iawn.

Wrth archebu’ch sesiwn, rhowch wybod i ni os ydych chi angen hwylusydd sy’n gwisgo dolen.

Tân a gadael mewn argyfwng

Mae rheolau gadael mewn argyfwng ar waith. Mae staff yr Amgueddfa yn gyfarwydd â nhw ac yn eu hymarfer yn rheolaidd.

Mewn argyfwng, bydd larwm yn canu a llais menyw yn dweud wrthych am adael yr adeilad heb ddefnyddio’r lifftiau. Dylech adael drwy’r allanfa ddiogel agosaf, a dilyn cyfarwyddiadau staff yr Amgueddfa.

Plant ar goll

Mae tair mynedfa i’r Amgueddfa, felly gofalwch eich bod yn cadw’r grŵp gyda’i gilydd. Mae un drws allanol yn arwain i lwybr wrth ymyl Doc y De sy’n llawn dŵr, felly mae angen bod yn ofalus wrth symud o amgylch y safle.

Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os ydyn nhw ar goll.

Os bydd arweinydd grŵp yn sylweddoli bod un o’r grŵp ar goll, dylai gysylltu ag aelod o staff yr Amgueddfa ar unwaith.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma.