Digwyddiadau

Digwyddiad: Penydarren - Diwrnod Stêm

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
11 Mai 2024, 12:00pm-3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Cyfle prin i weld ein copi o locomotif stêm Penydarren wrth i ni danio ei hinjan a’i gyrru lawr y cledrau. Dibynnol ar y tywydd.

Dyma gerbyd sydd â phwysigrwydd byd-eang – gan mai'r locomotif gwreiddiol wnaeth y daith gyntaf ar gledrau gan drên stêm, datblygiad fyddai'n chwyldroi trafnidiaeth y 19eg ganrif.

Ar 21 Chwefror 1804, teithiodd y locomotif hwn ar hyd y dramffordd 9 milltir o Benydarren i Abercynon, gan dynnu llwyth o ddeng tunnell o haearn a tua saithdeg o bobl a lwyddodd i fachu taith answyddogol!

Locomotif stêm Richard Trevithick | Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd.

Digwyddiadau