Arddangosfa: Porthladdoedd Coll Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Porthladdoedd Coll Cymru - Porthgain
Mae gan Gymru arfordir hir – bron yn 870 milltir o hyd. Arweiniodd ffermio a diwydiant at fasnachu, ac er bod llawer o nwyddau’n croesi Clawdd Offa, roedd y mor a’r afonydd yr un mor allweddol. Y canlyniad oedd nifer o borthladdoedd, ambell un mewn lle go annisgwyl. Fel rhan o ddathliadau 2018 Blwyddyn y Mor yng Nghymru, mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o’r porthladdoedd coll hyn.