Digwyddiadau

DigwyddiadFfilm Nadoligaidd: All Aboard! The Sleigh Ride (2015)

Wedi'i Orffen
2 Rhagfyr 2018, 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dilynwch daith hudol sled ceirw traddodiadol ar hyd anialdir rhewllyd yr Arctig.

Ymgollwch yn naws syfrdanol a hypnotig y siwrnai hon 200 milltir uwchlaw Cylch yr Arctig.

Wrth ddilyn llwybr hynafol postmyn yr ardal, mae'r daith yn croniclo byd traddodiadol pobl Sami – brodorion gogledd Sgandinafia.

Cawn ein cludo gan gamau hamddenol, cyson y ceirw a'u tywyswyr ar daith ddwy awr epig dros fryniau gwyn, drwy fforestydd bedw, ar draws llynnoedd rhew a heibio i wersylloedd Sami traddodiadol.

Digwyddiadau