Digwyddiad: Sul y Cariadon
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am brynhawn rhamantus i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.
Gan gynnwys perfformiadau hudolus ar y delyn, crefftau cwtsh ac adrodd straeon.
Sul y Cariadon:
- 11am – 4pm: Llwybr llwy caru
- 12pm & 3.30pm: Rhowch gais ar y telynau bychain
- 12.30pm – 3.30pm: Crefftau caru
- 12.30pm, 2.15pm & 3pm: Adrodd Stori
- 1.30pm: Perfformiad unigol ar y Delyn - Shelley Fairplay
- 2.30pm: Dynamic Harp - perfformiad grŵp ar y delyn