Arddangosfa: Cymru a'r Môr
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Gydag arfordir bron i chwe chan milltir o hyd, does ryfedd fod gan Gymru berthynas glos â’r môr. Mae’r dyfroedd wedi siapio nid yn unig arfordir Cymru, ond hefyd hanes a dychymyg y Cymry. Gan ddefnyddio hanes, straeon a delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Cymru a Cadw, bydd yr arddangosfa hon yn archwilio ein perthynas â’r môr a sut y bu iddo effeithio ar ein tirwedd a’n diwylliant.