Arddangosfa: Rhannu Hanes Lleol ar facebook
Mae llawer yn rhannu atgofion a lluniau o ddigwyddiadau, llefydd a phobl leol ar facebook, ond anaml bydd rhain yn cael lle mewn amgueddfa!
Galwch draw i weld golygfeydd dwys a diddorol diweddar o’r cyffiniau. Bydd yr arddangosfa yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd Abertawe a’r cylch drwy lygaid y trigolion. Mae pob llun yn gangen o’r we gynyddol o atgofion sy’n gorgyffwrdd gan greu hanes torfol hollol wahanol i’r hyn a welir mewn llyfrau hanes.
Yn yr arddangosfa hon mae Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi cydweithio â grwpiau facebook lleol ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddod â’r hanes hwn i’r golwg. Pwy â ŵyr, efallai byddwch chi’n adnabod rhywun yn y straeon a’r lluniau!
Mae croeso mawr i chi grwydro’r arddangosfa a rhannu’ch barn, eich sylwadau a’ch atgofion eich hun â ni.