Digwyddiadau

DigwyddiadFfilmiau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Wedi'i Orffen
3 Chwefror 2019, 11:30am a 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mulan (U, 1998) a Mulan 2 (U, 2004)

Ffilmiau cyffrous am ddim, fel rhan o'n dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Mulan

Hen chwedl o Tsieina am ferch sy'n clywed fod ei thad hen ac eiddil am gael ei alw i'r fyddin. Gan wybod na fyddai'n goroesi'r profiad, does dim dewis ganddi ond gwisgo cuddwisg ac ymuno â'r fyddin yn ei le.

 

Mulan 2

Wrth baratoi am ei phriodas, rhaid i Mulan fynd ar daith gudd i hebrwng tair tywysoges i Qui Gong, Tsieina.

Digwyddiadau