Digwyddiadau

DigwyddiadPictiwrs Prynhawn: Brighton Rock (PG, 1947)

Wedi'i Orffen
22 Chwefror 2019, 1:30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Caiff clasur o ffilm ei dangos ar ddydd Gwener olaf y mis, gyda chyflwyniad i gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol y ffilm.

Mae Pinkie Brown a'i giwed yn rhedeg raced amddiffyn yng nghae ras Brighton. Mae Pinkie'n lladd newyddiadurwr o'r enw Fred Hale, oedd yn gyfrifol am farwolaeth un o'i gyfeillion, ond mae'r heddlu'n credu mai lladd ei hun wnaeth Hale. Nid yw Ida Arnold yn credu hyn – roedd hi gyda Fred ychydig cyn ei farwolaeth, ac aiff Ida ar ôl y gwirionedd.

Digwyddiadau