Digwyddiad: Parti Bychan Dydd Gŵyl Dewi!
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Yn galw ar holl blant dan 5 am fore llawn hwyl i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chrefftau cŵl, caneuon a chwarae!
Cynnwys:
Gweithdy hudolus stori a symud gyda Lowri Sion
Dewch i gwrdd â Daff, Dil a Del, y tylwyth teg sydd yn byw ar waelod yr ardd! Trwy greadigrwydd a hud dewch i ddarganfod am y llysiau iach allwch chi dyfu a bwyta.
Mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe a Cymraeg i Blant.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Croeso 2024