Digwyddiadau

Digwyddiad: Parti Bychan Dydd Gŵyl Dewi⁠!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
1 Mawrth 2024, 10.15am - 12.15pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd i blant ifanc, pump oed neu iau.

Archebu tocyn

Yn galw ar holl blant dan 5 am fore llawn hwyl i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chrefftau cŵl, caneuon a chwarae!

Cynnwys:

Gweithdy hudolus stori a symud gyda Lowri Sion

Dewch i gwrdd â Daff, Dil a Del, y tylwyth teg sydd yn byw ar waelod yr ardd! Trwy greadigrwydd a hud dewch i ddarganfod am y llysiau iach allwch chi dyfu a bwyta. 

⁠Mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe a Cymraeg i Blant.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Croeso 2024

 
 


 
Digwyddiadau