Digwyddiad: Dosbarthiadau Bywluniadu - Dyddiau Dawns
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Digwyddiad arlunio arbennig i ddathlu dawns a symudiad.
Yn ein Oriel Warws, yng nghanol y cypyrddau gwydr, bydd modelau noeth a rhai mewn gwisgoedd yn creu tableaux wedi'u hysbrydoli gan artistiaid fel Degas a Toulouse-Lautrec. Gydag ystumiau symudol, hir a byr, dewch draw i arlunio!
Ar agor i bawb, boed yn artist proffesiynol neu'n codi brwsh am y tro cyntaf. Byddwn yn darparu deunyddiau sylfaenol a standiau, ond mae croeso i chi ddod â'ch offer eich hun. Nid oes tiwtor, ond bydd aelodau staff wrth law i roi cyngor.
Ar y cyd â Life Drawing at Elysium.
Nifer gyfyngedig o docynnau.