Sgwrs: Herio Terfynnau : Gwersi o Ymyl y Bydysawd | Defying Limits: Lessons from the Edge of the Universe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Bydd Dr Williams yn rhannu ei frwdfrydedd dros archwilio'r gofod, ei brofiadau yn y gofod ac o dan y môr, yn ogystal â straeon o'i lyfr, mewn cyflwyniad cyflym hanner awr fydd yn cipio eich dychymyg. Bydd yn mynd ar ôl pynciau mor amrywiol â thorri gwynt yn y gofod a harddwch ein planed o long ofod. Bydd ei ddelweddau byw o'r gofod a dyfnderoedd y môr yn siŵr o aros yn y cof.
Bydd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad, a bydd Dr Williams yn llofnodi copiau o'i lyfr, fydd ar werth yn y digwyddiad.
Mewn partneriaeth Prifysgol Abertawe