Digwyddiadau

Digwyddiad: Dawnsio Dandiya

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
20 Hydref 2023, 7pm - 9.30pm
Pris Tocynnau £3.50 Oedolion / £2 Plant
Addasrwydd Pawb
Dyn a menyw droednoeth mewn dillad lliwgar yn perfformio dawns ffon cylch Hindŵaidd.  Rhwng y ddau ddawnsiwr mae planhigyn bychan gyda blodyn pinc yn tyfu trwy'r tywod.

Archebu tocynnau 

 

Gŵyl boblogaidd o India yw Dussehra sy'n cael ei dathlu gan Hindŵaid ym mhedwar ban byd. Mae hyn yn dilyn naw diwrnod o ddathlu o'r enw Navratri (naw noson yn Sanskrit). Mae'r ŵyl yn dathlu buddugoliaeth y da dros y drwg. 

Un o nodweddion diddorol Navrati yw'r Garba a'r Dandiya Ras – dawns i ddynion a menywod mewn un cylch mawr. Mae'r Dandiya Ras, Dawns y Ffyn, yn cael ei pherfformio gyda ffyn bach o bren sgleiniog. Wrth iddyn nhw droelli ac ymgolli yn rhythm y ddawns, bydd y dynion a'r menywod yn taro'r dandiyas at eu gilydd, gan ychwanegu at hwyl y naw noson yn arwain at Dussehra ar y degfed diwrnod.

 

Dewch i ymuno â'r dathliadau gyda'r ddawnswraig Kathak broffesiynol a'r artist cymunedol, Sarita Sood.

Digwyddiadau