Digwyddiadau

Digwyddiad: Noson Swper GRAFT

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
9 Medi 2022, 6.30pm
Pris £15 y pen
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch eich lle trwy Eventbrite.

Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned.

Byddwn yn croesawu cynhyrchwyr bwyd lleol, llysgenhadon a phrojectau cymunedol o’r ddinas ar gyfer gwledd go wahanol.

Ymysg y gwesteion bydd Vetch Veg, Matt’s Cafe, Summit Good, Room to Grow, Bwyd Abertawe, y ffermwr organig Gerald Miles, a’r ymchwilydd ac addysgwr bwyd Dee Woods.

Trwy’r noson bydd cerddoriaeth fyw, trafodaethau am gymuned a’r hinsawdd, a chyfle i ystyried y rhwydwaith fywiog o gynhyrchwyr a llefydd gwyrdd sy’n datblygu ar hyd a lled Abertawe. 
 
Beth yw dyfodol ein bwyd?  
Sut allwn ni greu system fwyd leol sy’n deg ac yn gynaliadwy? 
 
Wedi’i guradu gan Owen Griffiths gyda’r artist a’r cogydd Thom O’Sullivan 
Mwy o newyddion am ein gwesteion a cherddoriaeth fyw ar ein instagram a chyfryngau cymdeithasol 
Instagram @graft____ 

Tocynnau £15pp yn cynnwys bwyd ac un ddiod, (bar ar gael hefyd)

TOCYNNAU

BWYDLEN

Wrth gyrraedd - Pwmpen wedi’i rhostio yn y popty, winwns coch wedi’i biclo a hadau ffenigl ar fara wedi’i dostio. 

Y pryd bwyd, 

- Focaccia cartref gyda phesto cnau Ffrengig a lofaets.  

- Moron a ffenigl wedi’u pobi gyda mêl GRAFT. 

- Slaw mayonnaise garlleg wedi’i goginio’n araf. 

- Stiw pys carlin a phupur coch. 

- Tatws yn y popty. 

* Popeth yn fegan, heblaw mêl GRAFT. Bydd dewis arall ar gael. 

* Alergenau yn cynnwys - glwten, mwstard, pupur, soia, cnau Ffrengig, 

ffenigl, tomatos. 

 

 

 

Digwyddiadau