Digwyddiadau

Digwyddiad: Ffair Werdd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
19 a 20 Tachwedd 2022, Dydd Sad 10am - 4pm, Dydd Sul 10am - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Popeth ar gyfer Nadolig Gwyrdd – anrhegion, syniadau a chyngor!
 
Bydd y Ffair Werdd yn llawn nwyddau organig, masnach deg, wedi'u hailgylchu neu eu cynhyrchu'n lleol, neu sy'n ystyriol o'r amgylchedd.
 
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y 40 a mwy o stondinau, yn barod i'ch rhoi chi i gyd yn hwyl yr ŵyl.

 

Gan gynnwys:

Dydd Sad a Dydd Sul - Cyfnewid Llyfrau - Cyfnewid Llyfrau | Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Dydd Sad- Caffi trwsio -10.30 - 1.30pm - 

https://www.environmentcentre.org.uk/beyond-recycling-swansea

, https://www.facebook.com/BeyondRecyclingSwansea

Dydd Sad- GRAFT yn Y Ffair Werdd - GRAFT yn Y Ffair Werdd 2022 | Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Dydd Sul- Dangosiadau Ffilmiau Plant - 12.30pm - Gruffalo, 1pm - Gruffalos child, 2pm - Stick Man

 

Mae'r Ffair Werdd wedi bod yn cefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol a moesegol yn Abertawe ers 1983.
 
Mae gwerthwyr yn ffeiriau’r gorffennol wedi cynnig addurniadau Nadolig cartref, cardiau a phrintiau gwreiddiol, gemwaith unigryw, bagiau prydferth, danteithion blasus a llawer mwy!
 
Cynhelir y Ffair Werdd mewn partneriaeth â Chanolfan yr Amgylchedd, Abertawe.

https://www.environmentcentre.org.uk/green-fair

https://www.facebook.com/GreenFairSwanseahttps://www.facebook.com/GreenFairSwansea

 

Digwyddiadau