Digwyddiadau

DigwyddiadFfilmiau Nadoligaidd Siôn Corn

20 Rhagfyr 2019, 6:30pm
Pris £7.50yp (am ddim i blant dan 2)
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Archebwch eich lle trwy Eventbrite.

Noson ffilm Nadoligaidd gyda gweithgareddau ychwanegol gan gynnwys llwybr arbennig, cyfle i greu bocsys rhodd a chân gyda Siôn Corn.

Mae Siôn Corn yn dod i’r Amgueddfa! Pa ffordd well o gychwyn wythnos y Nadolig na’r digwyddiad arbennig hwn wedi oriau cau?

Beth i’w ddisgwyl...

  • Chwiliwch am yr addurniadau anferth sy’n cuddio yn yr orielau i gwblhau’r llwybr hudol.
  • Gwnewch bâr o ‘bopwyr pen’ Nadoligaidd.
  • Cân gyda Siôn Corn.
  • Siocled poeth am ddim gyda dewis o ychwanegion arbennig!
  • Yn goron ar y cyfan bydd dangosiad am ddim o ffilm Nadoligaidd yn Oriel Warws.

...Anrheg fach i bob plentyn.

 

Nifer cyfyngedig o docynnau.

Plant dan 2 oed am ddim – archebwch docyn am ddim i bob plentyn dan 2 oed fydd yn mynychu.

Tocynnau

Digwyddiadau arall yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Efallai bydd gennych diddordeb ynddynt  Nadolig MAWR y Glannau a Creu Siglwr Eira

Digwyddiadau