Digwyddiadau

Digwyddiad: Ffilm Mis Hanes LHDTQ+: The British Guide To Showing Off (2011-15)

Wedi'i Orffen
14 Chwefror 2020, 7.30pm
Pris Tocynnau am ddim trwy Eventbrite
Addasrwydd Oedolion

Ymunwch â ni am noson Sant Ffolant amgen gyda dangosiad arbennig o’r ffilm aruthrol The British Guide to Showing Off ar gyfer mis hanes LHDTQ+.

 Mae’r artist adnabyddus Andrew Logan, sy’n enwog ar draws y byd, yn ein croesawu ni i’w fyd disglair a thrawiadol mewn pasiant dillad ysblennydd: sioe Alternative Miss World. Fel Meistr y ddefod, Logan yw Archoffeiriad cynulleidfa uchel ei pharch. Mae’n disgrifio’r Sioe fel ei waith celf pwysicaf; cerflun byw arbennig sy’n cynnwys 40 mlynedd o’r celfyddydau a diwylliant. Gan ddefnyddio camera arsylwi byw, archif ac animeiddio brwdfrydig, mae’r rhaglen ddogfen hon yn cofnodi dechrau’r Sioe yn 2009, wedi’i gydblethu gyda’i hanes, a thwf, cwymp ac ailddarganfod y digwyddiad a’r artist wrth galon y rhaglen.

Nodwch, mae'r ffilm hon yn cynnwys rhai golygfeydd o natur echblyg a thrais. ​

Tocynnau

 ...Os ydych chi wrth eich bodd gyda hyn, rydym yn cynnal ein noson MX Cymru ein hunain, yng nghwmni Andrew Logan ei hun (dydd Mawrth 28 Ebrill) fel rhan o wythnos PRIDE. Bydd digwyddiadau PRIDE eraill hefyd i’ch ysbrydoli ac i’w mwynhau.

 

Digwyddiadau