Digwyddiadau

Digwyddiad: Gwyddoniaeth Gwych Abertawe

8 Mawrth 2020, 11am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Cymerwch ran mewn gweithgareddau ymarferol hynod ddiddorol ac arbrofion syfrdanol i bob oed, gwrando ar sgyrsiau a mwynhau amrywiaeth o arddangosiadau gwyddonol rhyngweithiol, o bryfed i feteoritau a robotiaid!

Bydd sgyrsiau gan westeion arbennig drwy gydol y dydd hefyd. Gan gynnwys sioe Taniwch! a thrafodaeth panel Merched Gwyddonol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Os ydych chi’n hoff o wyddoniaeth, dyma ddiwrnod heb ei ail!

I ddathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain a Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Mewn partneriaeth â Gwyddoniaeth Oriel, Prifysgol Abertawe a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.

Tocynnau

Digwyddiadau