Digwyddiadau

Digwyddiad: Helfa Basg FAWR yr Amgueddfa... Noson Ffilm Arbennig Gyda’r Hwyr!

Wedi'i ganslo
9 Ebrill 2020, 6pm
Pris Tocynnau: Plant £7.50, Oedolion £4.50
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch drwy Eventbrite.

* Mae'r digwyddiad yma wedi cael ei ganslo oherwydd pryder cyffredinol am dorfeydd a Choronafeirws. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra ond mae lles ein hymwelwyr, staff a’n gwirfoddolwyr yn flaenoriaeth gennym. *

 

Dyma’ch cyfle i fod y cyntaf i roi cynnig ar Helfa Basg FAWR yr Amgueddfa!

Gyda chrefftau a ffilm ddoniol i’r teulu cyfan, dyma ffordd berffaith o dreulio amser gyda’r teulu dros y Pasg.

Beth i’w ddisgwyl...

  • Dilynwch lwybr yr Helfa Basg i gracio’r cod a hawlio gwobr wych!
  • Crëwch fasg Gwanwyn eich hun.
  • Addurnwch eich bocs popcorn eich hun i’w lenwi gyda phopcorn
  • ...ac yn goron ar y cyfan bydd dangosiad am ddim o ffilm hwyliog i’r teulu yn Oriel Warws.

Tocynnau

Nifer gyfyngedig o docynnau.

Digwyddiadau