Digwyddiadau

Sgwrs: Sgwrs a Blasu Gwin:Gwinoedd Ynysoedd

Wedi'i ganslo
15 Mai 2020, 7pm
Pris Tocynnau’n £15/£12.50 gostyngiadau.
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Archebwch drwy Eventbrite

Mwynhewch ddetholiad blasus o Winoedd Ynysoedd.

Mae rhai o’r gwinoedd mwyaf diddorol yn dod o ynysoedd, rhai o’r rheiny sy’n tyfu mathau o rawnwin nad yw’n tyfu unrhyw le arall.

Bydd y sesiwn blasu yn cyflwyno amrywiaeth eang o fathau o win, yn addas i’w hyfed yn yr haf, sydd wedi dod o ynysoedd ar draws y byd.

Gyda gwybodaeth gefndirol ar gyfer pob gwin, cerddoriaeth o’r ardal a mapiau, mae’n argoeli i fod yn noson ddifyr iawn. Gyda’r Athro John Cope, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Steph Mastoris, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Digwyddiadau