Arddangosfa: Working Whispers- Archwilio Treftadaeth Ddiwydiannol
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Working Whispers - celf
Aeth Ysgol Gynradd Gadeiriol St Joseph ac Ysgol Gynradd Pontarddulais, dwy ysgol yn Abertawe, ar daith greadigol i archwilio treftadaeth anhygoel diwydiannau glo a chopr de Cymru. Cafodd y project ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn gweithio’n greadigol gydag ysgolion, artistiaid a sefydliadau.Mae’r project wedi creu gwaddol o ymateb creadigol i gyfnod diwydiannol chwyldroadol a newidiodd y byd.