Digwyddiad: Grym mewn Gwnïo



Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod am weithdy creadigol hanner diwrnod i ddathlu menywod o bob cwr o’r byd, wedi ein hysbrydoli gan y Wisg Goch anhygoel, sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa yn ystod mis Mawrth.
Braint fydd cael yr artist Kirstie Macleod yn arwain y gweithdy - hi wnaeth gychwyn a sbarduno project y Wisg Goch.
Bydd y gweithdy mewn dwy ran, ac ar y diwedd bydd cyfle i ychwanegu darn eich hun at gopi o’r wisg, gan wau eich stori eich hun i’r pwythau.
Manylion y gweithdy
Rhan gyntaf: Cyflwyniad i’r Wisg Goch gan Kirstie Macleod a chyfle i’w gweld. Yn dilyn hyn bydd Kirstie yn rhannu syniadau ac yn arddangos ei gwaith, ynghyd â Menna Buss, dylunydd lleol, fydd yn helpu i siapio eich syniadau.
Cinio
Ail ran: Sesiwn greadigol hamddenol, lle cewch gyfle i greu brodwaith eich hun i ychwanegu at ein replica maint llawn o’r wisg goch. Cyfle i ychwanegu eich stori chi’ch hun at ein fersiwn Gymreig o’r wisg anhygoel, sy’n symbol o gydsafiad a grym menywod.
Gorffen am 3pm
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Nid oes angen profiad blaenorol. Croeso i bawb, boed yn ddechreuwyr llwyr neu’n bwythwyr profiadol.
Am ddim
Mae hwn yn ddigwyddiad byw, yn y cnawd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Oherwydd y cyfyngiadau, nifer cyfyngedig o lefydd sydd, ac mae modd archebu ymlaen llaw. Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith.
Archebwch eich tocyn am ddim yma:
Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru